|
Nod Project Cymru-Ohio yw digido a dehongli deunyddiau o blith casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n ymwneud â hanes y Cymry yn Ohio a'u cyflwyno i gynulleidfaoedd ar draws y byd trwy gyfrwng y wefan hon. Mae'r wefan hon yn arddangos bron i 5,000 o ddelweddau o archifau a llawysgrifau, deunydd print, ffotograffau a mapiau yn ogystal ag adrannau sy'n cyflwyno hanes a phrofiadau'r Cymry a ymfudodd i'r dalaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Byddwn ni'n parhau i ehangu a chyfoethogi'r wefan tan ddiwedd mis Medi 2009. Mae'r wefan unigryw hon yn adnodd gwerthfawr tu hwnt i unrhyw un sy'n ymddiddori yn hanes a diwylliant Cymry America gan gynnwys ymchwilwyr, haneswyr, olrheinwyr achau, myfyrwyr a dysgwyr gydol oes. Ar yr un pryd mae hi'n dathlu ac yn cryfhau'r cysylltiadau sy'n bodoli rhwng Cymru, Ohio ac America. Derbyniwyd nawdd sylweddol gan Evan ac Elizabeth Davis, Oak Hill, Ohio, i gynorthwyo'r Llyfrgell Gendlaethol i gynnal Project Cymru-Ohio. Yn ddiweddar, derbyniodd y Llyfrgell nawdd pellach ganddynt i ehangu'r wefan hon. Mwy >> Dogfen y DyddPigion Cofrestr a Llyfr Cofnodion Arloeswyr Cymreig Dyffryn Mahoning:Lluniwyd yn ystod aduniad blynyddol Cymdeithas yr Arloeswyr Cymreig (1898-1922) mwy >> Yr American, gan y Parch. B W ChidlawLlawlyfr i Gymry a oedd yn bwriadu ymfudo i Ohio a gyhoeddwyd yn 1839 mwy >> NLW 14111D: Llythyrau Edward PeatLlythyrau’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth am fywyd Cymreig Gomer, yng ngogledd orllewin Ohio (1868–1883) mwy >> |