Dolen i brif wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru Fersiwn i'w argraffuE N G L I S H
Ychwanegu hwn at Fy AlbwmYchwanegu hwn
at Fy Albwm

Cliciwch i weld map mwy

Cafwyd hyd i'r rhain wrth chwilio'n ddiweddar:

Oak Hill
Paddy's Run
brics
mordaith
Ezekiel Hughes

Hafan > Lleoedd > Sir Butler, Ohio

Sir Butler

Paddy's Run: Cymuned Gymreig gyntaf Ohio

Sefydlwyd y gymuned Gymreig yn Paddy's Run gan Ezekiel Hughes ac Edward Bebb o Lanbryn-mair, Sir Drefaldwyn, David Francis, Morgan Gwilym a William Gwilym o Sir Forgannwg a John Vaughan a Morris Jones o Garno, Sir Drefaldwyn.

Mae hanes sefydlu'r gymuned yn dechrau ym 1795 pan ymfudodd Ezekiel Hughes ac Edward Bebb a mintai o ardal Llanbryn-mair i'r Unol Daleithiau. Mae rhagor o wybodaeth am aelodau'r fintai honno a'r daith helbulus a gawsant ar dudalen Ezekiel Hughes. Ar ôl treulio'r gaeaf yn Philadelphia, teithiodd Hughes a Bebb tua'r gorllewin i gyfeiriad Cincinnati yng ngwanwyn 1796 er mwyn gwneud arolwg o'r tir yn yr ardal. Nid oedd y llywodraeth wedi dechrau gwerthu tir yma eto felly bu'n rhaid i'r ddau ymgartrefu dros dro yn Blue Rock Creek ar ochr ddwyreiniol yr afon Miami. Ym 1798 daeth Morgan Gwilym a'i frawd William a'i wraig o Red Stone, Pennsylvania, i ymuno â hwy ac yn Blue Rock Creek y bu'r criw bach o Gymry tan bod modd iddynt brynu tir.

Ym 1800 gwnaethpwyd arolwg o'r tir i'r gorllewin i'r afon Miami ac ym 1801 fe'i rhoddwyd ar werth, mewn rhannau. Prynodd Ezekiel Hughes ddwy ran yn Nhrefgordd Whitewater, Sir Hamilton; prynodd William Gwilym un rhan arall a phrynodd Edward Bebb hanner rhan o dir yn Dry Fork, Trefgordd Morgan, Sir Butler. Yn fuan ar ôl gwneud hynny dechreuodd Bebb ar daith yn ôl i Gymru i ymweld â'i hen gymdogaeth yn Llanbryn-mair ond cyfarfu â'i hen gariad, Margaret Roberts Owen yn Ebensburg ar ei ffordd yn ôl. Roedd hi newydd ymfudo i America gyda'i gŵr ond bu farw ef yn ystod y fordaith a phan ddaeth Edward Bebb ar ei thraws eto roedd hi'n aros gyda'i brawd, y Parch. George Roberts. Priododd Bebb â Margaret a dychwelodd y ddau i Dry Fork. Mae'r tŷ pren a adeiladwyd ganddynt yn dal i fodoli heddiw ac fe'i cedwir fel adeilad hanesyddol. Cliciwch ar y ddelwedd ar y dde i weld clip ohono ar raglen "Twrio" (Cymraeg yn unig) >>

Ganed tri phlentyn i Edward a Margaret Bebb ac fe ddaeth yr hynaf - William Bebb - yn adnabyddus fel ysgolfeistr, cyfreithiwr a Llywodraethwr Ohio.


Y blynyddoedd cynnar

"Y mae y dyffryn hwn yn dir rhagorol, a'r bryniau yn llawn o goed a cherig. Y mae, bron, bob tyddyn yn dir gwastad a bryniog ... Prif waith yr amaethwyr yw codi Indian Corn , a phesgi moch, rhai ohonynt o 40 i 150 yn flynyddol yn ol maint ac ansawdd eu tyddynod."
dogfen oYr American, t.21
Yn fuan iawn daeth rhagor o Gymry i ardal Paddy's Run a phrynu tir. Cofnodwyd hanes nifer a symudodd yno rhwng 1801 ac 1830 mewn erthygl gan y Parch. B. W. Chidlaw a gyhoeddwyd yn The Cambrian ym 1880.
Dioddefodd yr arloeswyr cynnar amser caled iawn. Roedd y sir wedi ei gorchuddio â choed pan aethant i'r ardal gyntaf, felly bu'n rhaid iddynt weithio'n ddyfal i glirio'r tir a'i wneud yn addas i'w drin. Yn ail hanner yr erthygl a gyhoeddwyd yn The Cambrian disgrifiodd Chidlaw rai trafferthion eraill y bu'n rhaid i gymuned Gymreig Paddy's Run eu hwynebu. Er gwaethaf pob anhawster bu'r Cymry'n ddigon lwcus ar y cyfan oherwydd roedd tir ardal Paddy's Run yn dir ffrwythlon ac addas i dyfu pob math o gnydau. Roedden nhw hefyd yn ffodus oherwydd eu bod o fewn cyrraedd marchnad Cincinnati, lle y gallent gael pris da am gynnyrch eu caeau a'u hanifeiliaid.

Twf y gymuned

"The next sabbath will be the last for some thirty five or more of our Members to be at Llanbrynmair. They will be starting for America early next week. It will be rather trying to give them their Letters of Dismission." dogfen oNLW 13196D
O tua 1818 ymlaen daeth llif cyson o Gymry Sir Drefaldwyn a De Meirionydd i Paddy's Run. Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn Y Dysgedydd ym 1835 roedd 250 o Gymry yn byw yn gysurus iawn yno ond cwynid bod y Gymraeg yn cael ei hesgeuluso'n aml ganddynt. Roedd y mwyafrif ohonynt yn berchen eu tyddynnod eu hunain a amrywiai o 80 i 400 acer, a'r tir gwerth $30 i $75 yr acer.


"... and it did prove a very affecting scene - many fainted overcome by their feelings"
dogfen oNLW 13196D
Pan ymwelodd R. D. Thomas ('Iorthryn Gwynedd') â'r gymuned ym 1852, roedd yno dyddynnod mawr, llewyrchus a dogfen o"sefydlwyr Cymreig yn werth eu miloedd doleri." Disgrifiodd yr ardal yn ei lyfr nodiadau (NLW 9521A) a dogfen onododd brisiau rhentu tir a prhisiau'r farchand yn Cincinnati (Cymraeg yn unig) >>


Addoli

NLW 9521A

NLW 9521A
Er bod cartrefi'r Cymry ar wasgar yn ardal Paddy's Run, deuent ynghyd i addoli yn nhai ei gilydd. Ar 3 Medi 1803, sefydlwyd Eglwys Paddy's Run dan yr enw "Congregational Church of White Water."
dogfen oDigidwyd Cofrestr / Llyfr Cofnodion yr eglwys (1803 - 1900) fel rhan o Broject Cymru-Ohio (Saesneg) >>
Daeth y Cymry'n aelodau o'r eglwys hon ond bu'n rhaid iddynt aros tan i'r Parch. Rees Lloyd ddod atynt o Ebensburg ym 1817 cyn clywed pregethu Cymraeg. Bu Rees Lloyd yn pregethu yn Gymraeg hyd ei farw ym 1837. Y Parch. B.W. Chidlaw fu'n gweinidogaethu yno rhwng 1836 ac 1844 ac ymddengys mai dyma gyfnod aur yr eglwys oherwydd derbyniwyd 216 o aelodau newydd iddi mewn saith mlynedd.

Gellir darllen rhagor am hanes yr eglwys hon a'i gweinidogion rhwng 1803 ac 1870 yn dogfen oHanes Cymry America >>


Symud o Paddy's Run

Cofeb, Paddy\

Cofeb, Paddy's Run (Ochr I)
Gan fod prisiau tir Paddy's Run wedi cynyddu cryn dipyn ers iddo fynd ar werth gyntaf ym 1801, llesteiriwyd datblygiad y gymuned i ryw raddadu a gorfodwyd rhai Cymry i chwilio am diroedd mewn rhannau eraill o'r dalaith. At hyn, roedd naws y gymuned gyfan yn newid yn raddol wrth i fwy a mwy o ymfudwyr o wledydd eraill symud i Paddy's Run. Daeth llawer o Almaenwyr yno a throdd o fod yn gymuned Brotestannaidd i fod yn gymuned Babyddol erbyn wythdegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.


Cofeb, Paddy\

Cofeb, Paddy's Run (Ochr II)

O'r gymuned hon yn Paddy's Run y deilliodd cymunedau Gomer a Venedocia yng ngogledd ddwyrain Ohio a chymunedau yng ngogledd ddwyrain Indiana. Gall cymunedau Cymreig yn nwyrain Tennesse, Illinois, Iowa a Wisconsin olrhain eu gwreiddiau yn ôl i Paddy's Run.





Deunyddiau a ddigidwyd o gasgliad LlGC


dogfen oNLW Microfilm 401-02: Cofrestr / Llyfr Cofnodion Eglwys Annibynnol Gymreig Paddy's Run, Shandon, Ohio, 1803-1900

dogfen oNLW 9521A: America: neu Amrywiaeth o Nodiadau am yr Unol Daleithiau; Buddiol i Ymfudwyr. Gan Iorthryn Gwynedd. Ysgrifennwyd ganddo ar ei Deithiau yn Efrog, Ohio a Pennsylvania, o Mai 1851 hyd Mai 1852

dogfen oNLW 13196D: J. M. Howel 8. Llythyrau at 'S.R.' yn cynnwys:
dogfen oLlythyr dyddiedig 18 Tachwedd 1840 gan William Bebb o Hamilton (Saesneg);
dogfen oNodyn gan y Parch. Samuel Roberts yn sôn am griw o 30 yn gadael Llanbryn-mair am America ar ddiwedd llythyr dyddiedig 28 Chwefror 1848 gan y Parch. B. W. Chidlaw (Saesneg);
dogfen oLlythyr dyddiedig 2 Gorffennaf 1841 gan y Parch. B. W. Chidlaw yn cofnodi marwolaeth ei wraig a marwolaethau eraill yn ardal Paddy's Run (Cymraeg);
dogfen oLlythyr dyddiedig 20 Medi 1841 gan y Parch. B. W. Chidlaw o Paddy's Run (Saesneg).


dogfen oEdward Jones, Y Teithiwr Americanaidd (Aberystwyth, 1837), t.20

dogfen oB. W. Chidlaw, Yr American (Llanfair, 1839), tt.21 - 23

dogfen oR. D. Thomas, Hanes Cymry America(Utica, 1872), tt.113 - 115

Paratowyd 3 chlip fideo o raglen "Twrio" (26/11/1995) ar gyfer y wefan hon:













Deunydd ychwnaegol LLGC Ceir hefyd yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol sgript rhaglen radio, ugain munud o hyd, a ddarlledwyd ar 10 Hydref 1946.

BBC - BOCS 168
Wales and Welshmen Overseas: Emigration to the U.S.A (10:10:1946), gan Ambrose Bebb.

Adroddwr - Philip Phillips
Llais - Dafydd Havard
Morgan John Rhys - D. J. Thomas
Ernest Hughes - Herbert Davies
Ezekiel Hughes - Prysor Williams
Llais 1 - D. Moses Jones
Swyddog y llynges - David Close Thomas
Capten - Norman Wynn
Cynhyrchiad gan D. Haydn Davies.

Adroddir hanes y fintai a aeth i America o Lanbryn-mair, Llangadfan a Machynlleth 200 mlynedd yn ôl, adeg y Chwyldro Ffrengig. Sonnir am Morgan John Rhys yn cyfarfod Ezekiel Hughes ym Machynlleth tua 1793. Ceir hanes helbulus y fintai ar eu taith i Fryste a dyfynnir llythyr gan Edward Bebb a ysgrifennwyd 5 diwrnod ar ôl glanio yn Philadelphia yms mis Hydref 1795. Cyfarfu Ezekiel Hughes ac Edward Bebb â Morgan John Rhys a phenderfynasant deithio i'r gorllewin yn y gwanwyn. Cyraeddasant Ohio ac ymgartrefu yn Paddy's Run. Nodir bod mab cyntaf Edward Bebb, sef William Bebb, wedi cael ei ethol yn llywodraethwr Ohio a nodir bod Ezekiel Hughes yn Ustus Heddwch.

Deunyddiau a ddigidwyd yn Ohio

Archifau a llawysgrifau
dogfen oDyddlyfr Hugh Williams, gof yn Paddy's Run, 1844-1870

dogfen oLlythyrau at 'S. R.', 1825-1884

dogfen oLlythyr gan Richard Manuel o Shandon, Sir Butler at ei frawd D Manuel, 1890

dogfen oArysgrifau ym Meibl Teulu'r Humphreys, 1825-1965

dogfen oNodiadau ar hanes teulu Thomas Watkins o Dolau, Llanerfyl, Sir Drefaldwyn

Deunydd printiedig
dogfen oEsther R. Benzing (gol.), Governor William Bebb: cabin-birthplace and park (Butler County, Ohio, 1986)

dogfen oThe history of the Congregational Church, Shandon, Ohio (Shandon, Ohio, 2003)

dogfen oA self-guided driving tour of historic Morgan Township (Shandon, Ohio, 2003)



Llyfryddiaeth gyffredinol


'Henry Blackwell, 'Biographica et bibliographica', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyf.2, rh.3+4, Haf 1942, t.177. Bywgraffiad William Bebb.

Y Parch. B. W. Chidlaw, 'Historical Sketch of Paddy's Run, Butler County, O', (mewn dwy ran), The Cambrian, Cyfrol I, Rhif 2 (Mawrth/Ebrill 1880), tt. 39-45; Rhif 3 (Mai/Mehefin 1880), tt. 77-86.

Y Parch. B. W. Chidlaw, 'The Welsh Pioneers in the Miami Valley', The Cambrian, Cyfrol IV, Rhif 9 (Medi 1884), tt. 248-251.

Y Parch. B. W. Chidlaw, 'Paddy's Run Congregational Church (Butler County, Ohio)', The Cambrian, Cyfrol II, Rhif 6 (Tachwedd/Rhagfyr 1882), tt. 265-268.

W. H. Irwin a'r Parch. S. D. Crothers, Centennial Historical Sketches of Greenfield and Vicinity, July 4, 1876 (Greenfield : Ohio, 1876). Mae'n cynnwys 'An Historical Sketch of Paddy's Run, Butler County, Ohio' gan y Parch. B. W. Chidlaw.

William Harvey Jones, 'Welsh Settlements in Ohio', (mewn tair rhan) The Cambrian, Cyfrol XXVII, Rhif 7, tt. 311-17.

Marian Rees (gol.) ac Alun D. W. Owen (cyfieithydd), Llanbrynmair yr ugeinfed ganrif - Llanbrynmair in the twentieth century (Llanbrynmair, 2005).

Clare Taylor, Paddy's Run: A Welsh Community in Ohio [Rhan o ddarlith a draddodwyd i Gymdeithas Hanes Coleg Prifysgol Abertawe, ddydd Mawrth, 6 Tachwedd, 1979] (Aberystwyth : yr awdur, 1979).

Clare Taylor, 'Paddy's Run: A Welsh Community in Ohio',Cylchgrawn Hanes Cymru, Cyf.11, rh.3 (Mehefin 1983), tt.302-316.

Stephen Riggs Williams, The Saga of the Paddy's Run (Oxford : Ohio, 1945)

Ambrose Bebb, Dial y Tir (Llandybïe, 1945)


Dolenni


Cerrig coffa Hen Fynwent Gymreig Paddy's Run yn Shandon, Ohio


Gweinyddu