Sir Delaware, OhioRadnor, Troedrhiwdalar a DelawareAr y dudalen hon: Prynu tirCymro ifanc o'r enw David Pugh oedd arloeswr y gymuned Gymreig yn Radnor. Cyrhaeddodd America ym 1801 ac ar ôl treulio blwyddyn yn Baltimore symudodd i Philadelphia lle y cyfarfu â'r Dr. Samuel Jones. Roedd Jones wedi derbyn 4,000 acer o dir yng nghanolbarth Ohio am ei wasanaeth yn y Chwyldro yn America ac roedd yn awyddus i gael gwybod mwy am ansawdd y tir hwnnw. Cyflogodd David Pugh i wneud arolwg ohono ar ei ran a phan ddychwelodd, adroddodd fod yno dir ffrwythlon a gwerthfawr.Mewn erthygl ar hanes Trefgordd Radnor, Sir Delaware, a gyhoeddwyd yn The Cambrian, nododd y Parch. B.W. Chidlaw fod Dr. Samuel Jones wedi gwerthu'r tir ym 1803 i David Pugh am $2,650. Erthygl Chidlaw (Saesneg) >> Yr arloeswyr cyntafY gŵr cyntaf i ymgartrefu yn ardal Radnor oedd Henry Perry. Brodor o Ogledd Cymru ydoedd ond erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn byw yn Baltimore gyda'i wraig a'i blant. Cafodd ei annog gan David Pugh i fentro ymhellach i'r gorllewin felly ym 1803 teithiodd dros 500 milltir gyda'i ddau fab nes cyrraedd y tir coediog hwnnw a brynwyd gan Pugh yn ardal Radnor. Dewisodd y tri leoliad addas i adeiladu caban pren ac aethant ati dros y gaeaf i glirio ychydig aceri o dir.Dychwelodd Henry Perry i Baltimore yn ystod gwanwyn 1804 gan adael y meibion yng ngofal y caban a'r cnydau a blannwyd ganddynt. Daeth yn ei ôl yn ddiweddarach â'i wraig a'i blant eraill gydag ef. Ceir disgrifiad o ymdrechion y teulu i ddechrau bywyd newydd yn ardal Radnor yn erthygl Chidlaw (Saesneg) >> 1804 - sefydlu cymuned Gymreig RadnorDavid Pugh fu'n gyfrifol am enwi'r drefgordd hon yn "Radnor", er anrhydedd i'w ardal enedigol yng Nghymru, sef Sir Faesyfed neu 'Radnorshire' yn Saesneg. Rhannodd y tir a brynodd yn ddarnau 100 acer ac fe'u gwerthodd fesul un i'r arloeswyr. Henry Perry oedd y cyntaf i brynu. Prynodd ef Lot No. 1 am $150 ym Mehefin 1804. Gwerthwyd Lot No. 2, sef y darn tir i'r gorllewin o dir Henry Perry, ym mis Medi i John Jones a gwerthwyd can acer arall yr un diwrnod i John Watkins.Enwir yr arloeswyr eraill a ddaeth i'r ardal yn erthygl Chidlaw; disgrifir eu bywydau bob dydd a'u perthynas â llwyth Indiaid y Wyandot, Shawnee, Delaware a Pottawottamie. Twf y gymuned"Y mae yma fwy o Gymry nag un lle arall yn Ohio. Y mae y tir yn addas i godi pob math o ŷd, ac yn rhagorol am wair a phorfa. Gellir prynu tyddyn, a rhan o ohono wedi ei arllwyso, a thŷ ac ysgubor arno, o 4 i 6 phunt; y mae y tir gwyllt am yr haner, neu lai." Ni ddaeth rhagor o ymfudwyr i'r ardal am gyfnod oherwydd rhyfel 1812 ond ailgychwynodd y mewnlifiad o tua 1818 ymlaen. Heidiodd y Cymry i'r ardal hon gan fod y tir mor ffrwythlon. Mae'r llythyr a anfonodd Gryffith Thomas adref at ei ffrindiau yn ardal Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin, yn brawf bod modd i Gymro cyffredin fel ef lwyddo yn fuan iawn ar ôl iddo gyrraedd Delaware. Ym 1845, prynodd Gryffith 100 acer am $300 ac yn ystod ei flwyddyn gyntaf yno llwyddodd i adeiladu tŷ a chlirio hanner ei dir. Yna, prynodd 100 acer arall am yr un pris y flwyddyn ddilynol. Digidwyd y llythyr hwn fel rhan o Broject Cymru-Ohio.Erbyn y pumdegau roedd hon yn gymuned o ffermwyr llwyddiannus ac roedd gan yr Eglwyswyr, y Bedyddwyr, y Wesleaid a'r Annibynwyr Cymreig gapeli yno. Trowch at erthygl William Harvey Jones am ragor o wybodaeth am eglwysi Radnor (Saesneg) >> TroedrhiwdalarDenwyd Cymry o Sir Frycheiniog i'r ardal amaethyddol hon rhwng Radnor a Delaware ym 1842. Y flwyddyn honno, ymsefydlodd James Davies a'i deulu o Lanwrtyd yno ynghyd â nifer o deuluoedd eraill o'r un gymuned. Credir bod tua 50 o Gymry'n byw yn Nhroedrhiwdalar ym 1842 ac yn ôl R. D. Thomas, roedd nifer y Cymry wedi cynyddu i 200 erbyn 1872.DelawareSaif tref Delaware tua 25 milltir i'r gogledd o Columbus. Yn ôl R. D. Thomas, sefydlwyd Eglwys Annibynnol Gymreig yno yn y tridegau a thybiodd fod poblogaeth Gymreig tref Delaware dros 150 ym 1872.Deunyddiau a ddigidwydYmwelodd Iorthryn Gwynedd â Radnor ar ei daith drwy dalaith Ohio ym 1851 a chofnododd rai ffeithiau mewn llyfr nodiadau (NLW 9521A): Ceir disgrifiadau byr o Delaware, Radnor a Throedrhiwdalar yn: Llyfryddiaeth gyffredinolY Parch. B. W. Chidlaw, 'Radnor Township, Delaware Co., O.', The Cambrian, Cyfrol I, Rhif 5, tt. 173-181William Harvey Jones, 'Welsh Settlements in Ohio', (mewn tair rhan) The Cambrian, Cyfrol XXVII, Rhif 7 (tt. 311-17); Rhif 8 (tt. 344-50); Rhif 9 (tt. 395-9) (Gorffennaf-Medi 1907) DolenniCymdeithas Gymreig Canolbarth OhioHistory of Delaware and Ohio |