|
Cafwyd hyd i'r rhain wrth chwilio'n ddiweddar: Siroedd Jackson a Gallia, OhioAr y dudalen hon: Mae hanes sefydlu un o gymunedau Cymreig mwyaf poblog a mwyaf enwog America yn dechrau ym 1818, pan fentrodd chwe theulu estynedig o ardal Cilcennin, Sir Aberteifi, ar draws yr Iwerydd i geisio bywyd gwell.Ymgartrefodd "Cymry 1818" yn ne ddwyrain Ohio ond ychydig iawn a'u dilynodd am flynyddoedd lawer. Yn raddol, o ganol y tridegau ymlaen, denwyd mwy a mwy o Gymry i siroedd Jackson a Gallia gan adroddiadau yn y wasg ac addewidion o gyfleoedd newydd. Rhwng 1835 ac 1850, amcangyfrifir bod tua 2,500 i 3,000 o wŷr, gwragedd a phlant wedi gadael Sir Aberteifi oherwydd tlodi ac ansefydlogrwydd, a sefydlu "Little Cardiganshire" yn ne ddwyrain Ohio. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg credir bod cymuned o 4,000 - 6,000 o Gymry yno. "Cymry 1818" - Yr Arloeswyr CynnarAchoswyd yr ymfudo o ganol yr hen Sir Aberteifi yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan gynnydd y boblogaeth, cau'r tir comin, gorthrymder cyffredinol a threthi afresymol o uchel yn dilyn Rhyfeloedd Napoeleon. Gallai unrhyw un o'r ffactorau hyn fod wedi ysgogi John Jones Tirbach - tafarnwr "Y Ship" ym mhentref Pennant - i geisio dwyn perswâd ar ei deulu a'i ffrindiau i godi pac ac ymfudo i America. Ym 1818, penderfynodd chwe theulu adael ardal Cilcennin dan ei arweiniad ef a'i morio hi am America. Roedd y fintai o 35 yn cynnwys gwragedd a phlant:John Jones, Tirbach J. Evans, Penlanlas Evan Evans Tymawr Lewis Davies, Rhiwlas William Williams, Pantwallen Thomas Evans, Pantwallen Mae rhagor o wybodaeth am y chwe theulu hyn yn: Erthygl A. V. Evans a gyhoeddwyd yn The Cambrian ym 1888 (Saesneg) >> Credir bod y chwe theulu wedi gadael eu cartrefi a'u ffrindiau ym mhlwyf Cilcennin a dechrau ar eu taith uchelgeisiol tua 1 Ebrill 1818. I Lerpwl yr aethon nhw yn gyntaf ac roedden nhw wedi gobeithio hwylio i America bron yn syth ar ôl cyrraedd ond fe'u gorfodwyd i aros yno am fis cyfan cyn bod modd iddynt ddal llong addas. Cawsant fordaith helbulus ac anodd oherwydd y tywydd garw a'r amodau ar y llong ac yn anffodus fe fu'r siwrnai yn drech na merch fach John a Mary Evans Penlanlas a bu'n rhaid ei chladdu ar y môr. Ar ôl mordaith o 8 wythnos namyn diwrnod mae'n rhaid bod y Cymry yn eithriadol o falch pan laniodd y llong yn Chesapeake Bay yn Baltimore ar 1 Gorffennaf, ond nid dyna ddiwedd eu taith. Bwriad John Jones a'i griw oedd ymuno â Chymry Llanbryn-mair yn Paddy's Run, yng ngorllewin Ohio, felly yn syth ar ôl glanio roedden nhw'n wynebu siwrnai hir arall o 500 o filltiroedd. Teithiodd y Cymry mewn wagenni i Pittsburgh ac yna aethant yn eu blaenau ar gychod fflat i lawr yr afon Ohio. Roedd llywio'r cychod hyn yn waith caled ac anghyfarwydd i'r dynion ac roedd gan y menywod bryderon hefyd gan fod eu cyflenwad o fwyd yn prinhau. Ar ôl teithio 100 milltir roedd y teithwyr wedi blino'n lân, roedden nhw'n llwgu ac roedd angen trwsio'r cychod felly penderfynwyd glanio ac aros dros nos ger Gallipolis yn ne ddwyrain Ohio, lle'r oedd cymuned o Ffrancwyr yn byw. Yn ystod y nos cafodd rhaffau'r cychod naill ai eu torri'n rhydd neu fe wnaethon nhw ddadfachu mewn storm. Ofnai'r Cymry eu bod nhw wedi colli popeth ond mae'n debyg eu bod wedi llwyddo i gael y cychod a'u heiddo yn ôl yn ddiogel. Beth bynnag a ddigwyddodd, roedd digwyddiadau'r noson honno yn drobwynt yn y stori "Cymry 1818" ac yn garreg filltir yn hanes ymfudo o Gymru i Ohio yn gyffredinol oherwydd penderfynodd y Cymry blinedig aros yn y fan a'r lle yn hytrach na pharhau ar y daith i Paddy's Run. Yn ôl un stori, roedd y menywod wedi cael hen ddigon ar deithio erbyn hynny ac roedden nhw wedi gwrthod mynd gam ymhellach ond yn ôl stori arall, y Ffrancwyr fu'n bennaf cyfrifol am eu cymell i aros yn yr ardal. Yr adeg hon roedd y ffordd rhwng Chillicothe a Gallipolis yn cael ei hadeiladu ac felly llwyddodd y dynion i gael gwaith yn yr ardal yn fuan. Roedd digonedd o dir y llywodraeth ar gael i'w brynu yn y sir ond ymddengys fod y Cymry wedi pwyso a mesur yn ofalus cyn mentro prynu. Aeth John Jones i wneud arolwg o'r tir yn Radnor, Sir Delaware, lle'r oedd cymuned o Gymry'n bodoli'n barod a gweld bod y tir yno yn isel a gwastad ond poenai y gallai'r hinsawdd feithrin afiechydon. I bob golwg felly, prynu tir yn ardal Gallipolis oedd y dewis gorau. Dewisodd y Cymry dir gwerth $1.25 yr acer, tua 18 milltir o'r fan lle sefydlwyd Centerville yn ddiweddarach. "The Welsh did not like the New World very well, consequently they wrote no glowing letters back to their friends." Roedd tir y Cymry yn rhan o Drefgordd Raccoon, yn Sir Gallia, ond roedd fferm Lewis Davies yn estyn i'r sir nesaf. Ef, felly, oedd y Cymro cyntaf i ymgartrefu yn Sir Jackson. Yn ddiweddarach ychwanegwyd rhannau gorllewinol Gallia at Sir Jackson gan osod y teuluoedd a oedd yn byw yno yn Nhrefgordd Madison.J. W. Evans, The Cambrian (1883) Er bod y tir a brynodd y Cymry yn rhad, roedd yn garegog ac o ansawdd gwael ac nid oedd yn ddigon dwfn i dyfu cyndau da. I ryw raddau felly, roedd y frwydr i fyw a gwella'u byd yn parhau i'r arloeswyr ar ôl ymgartrefu yn Ohio. Disgrifir amodau byw'r arloeswyr cynnar a'r llu anawsterau a'u hwynebai yn: ac yn Symudodd William Williams a Thomas Evans a'u teuluoedd i Sir Delaware ym 1822 ond arhosodd gweddill y fintai yn yr ardal a chladdwyd y rhan fwyaf ohonynt ym mynwent Evans - Evans Cemetery - ger Eglwys Moriah. Yr Ymfudo MawrEr nad oedd amodau byw yng nghefn gwlad Sir Aberteifi yn gwella dim ar ôl ymadawiad John Jones Tirbach a'i griw, ni fentrodd fawr o neb ddilyn eu llwybr i dde ddwyrain Ohio am bron i 12 mlynedd. Dechreuodd yr ymfudo o'r newydd yn y tridegau, gyda theulu fan hyn a theulu fan draw yn codi pac ac ymuno â'u cymdogion gynt yn Jackson a Gallia. Ceir rhagor o fanylion am y Cymry a ymfudodd i'r ardal yr adeg honno yn"Yr wyf yn barnu mai y Dalaeth hon yw yr un oreu o lawer i'r Cymry i wladychu ynddi ... A chofier mai yr ochr Ddeheuol y mae y lleoedd goreu." Roedd crefydd yn rhan bwysig o fywydau'r Cymry hyn ac mae'n rhaid eu bod nhw'n hiraethu'n fawr am gael addoli yn Gymraeg oherwydd yn fuan ar ôl cyrraedd aethon nhw ati i sefydlu'r achos cyntaf yn Moriah ym 1835, dan oruchwyliaeth y Parch. Edward Jones o Cincinnati. Dychwelodd Edward Jones i Gymru ym 1837 a chyhoeddodd lawlyfr i ymfudwyr - "... nid yw Jackson a Gallia yn ddim ond Sir Aberteifi ar 'scale' fawr" Erbyn 1850 roedd tua 3,000 o Gardis wedi croesi'r Iwerydd er mwyn dechrau bywyd newydd yn ardal Tyn Rhos, Moriah, Nebo, Centerville, Peniel, Oak Hill a Horeb, ac yn ôl un adroddiad yn Y Cenhadwr Americanaidd, nid oedd Jackson a Gallia yn ddim ond Sir Aberteifi ar raddfa fawr!Y Cenhadwr Americanaidd AtgofionCofnodwyd hanes sefydlu rhai o gymunedau Cymreig Siroedd Jackson a Gallia mewn erthyglau a gyhoeddwyd yn The Cambrian ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er enghraifft:Dienw, 'The Accidental Settlement of the Welsh in Gallia and Jackson Counties, O' >> Dienw, 'The Welsh Settlements in Ohio - Gallia and Jackson' >> Dienw, 'Hewitt's Fork, Jackson Co., O' >> Dienw, 'Horeb, Jackson County, Ohio. By a Fostered Son' >> A. V. Evans, 'A History of the First Welsh Settlers in Gallia and Jackson Counties, Ohio' >> D. J. Evans, 'First Settlers in the Horeb Neighborhood ..' >> J. W. Evans, 'The Founders of the Welsh Settlement in Gallia and Jackson Counties, Ohio' >> Cofnodwyd hanesion eraill hefyd megis y golygfeydd yn harbwr Aberaeron ym 1839 pan ddaeth cannoedd ynghyd ar y cei i ffarwelio â dros 170 o ymfudwyr a oedd ar fin mynd i'r Unol Daleithiau. Roedd diflastod mawr ymhlith y perthnasau a'r ffrindiau a oedd wedi ymgynnull yno ac mae'n debyg bod rhai ar y cei wedi canu: Bydd melys lanio draw, 'Rôl dod o don i don, Ac mi rof ffarwel maes o law I'r ddaear hon. Dioddefai llawer o'r ymfudwyr amser caled iawn ar ôl cyrraedd pen eu taith ac mae hanes teulu o Lannon, Sir Aberteifi, yn enghraifft o'r math o dlodi a dioddefodd rhai ymfudwyr. Ymfudodd John a Mary Lloyd a'u plant ym 1840 ac ymgartrefon nhw ar dir digon gwael yn Cooper Hollow yng ngogledd Trefgordd Madison, Sir Jackson. Yn ôl eu hwyr, Mae Our Heritage, a olygwyd gan Evan E. Davis, yn cynnwys atgofion a straeon am rai o'r ymfudwyr o Sir Aberteifi a'r gymuned Gymreig a ffurfiwyd yn ardal Tyn Rhos: Gwraig weddw o blwyf Cilcennin oedd Ann Richards ac roedd hi'n 70 oed pan ymfudodd hi a'i phlant a'i hwyrion ym 1840. Hel atgofion o fath gwahanol a ddigwyddodd ym 1946, pan ddarlledwyd rhaglen radio arbennig rhwng Ohio a Chilcennin. Roedd y darllediad yn cynnwys llais Dan T. Davis yn Oak Hill a lleisiau o Gymru yn trafod yr arloeswyr a'r gwahaniaeth rhwng y Cilcennin a adawodd John Jones Tirbach a'i griw ym 1818 a Chilcennin 1946. Nid oes copi o'r darllediad gwreiddiol yng Nghymru ond mae sgript ohono yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gw. isod). Mae'n debyg bod copi ar ffurf record finyl ar gael yn Ohio. Ganed y Parch. Stephen Morgan yn Tyn Rhos, ym mhlwyf Nantcwnlle, ac mae ganddo ddiddordeb mawr yn hanes yr ymfudo o'i ardal enedigol. Ysgrifennodd ddrama yn dwyn y teitl "Melys Glanio Draw" am yr ymfudo o Gymru a hanes John Jones Tyn Rhos a'i deulu ac fe'i perfformiwyd hi yn Theatr Felinfach, sydd tua 2 - 3 milltir o Gilcennin, ddiwedd nawdegau'r ugeinfed ganrif. Yn 2004 perfformiwyd pantomeim - "Oi Oi Oi Ohio" - yn yr un theatr. ** Gobeithir ychwanegu at yr adran hon ar atgofion yn y dyfodol ** AddoliNodwyd uchod mai ym 1835 y sefydlodd y Methodistiaid Calfinaidd Eglwys Moriah a chan mai hi oedd yr eglwys gyntaf a sefydlwyd gan y Cymry yn ne ddwyrain Ohio, daeth yn adnabyddus fel mam holl eglwysi Cymreig yr ardal. Gyda dyfodiad rhagor o Gymry, sefydlwyd yr eglwysi a ganlyn gan y Methodistiaid Calfinaidd rhwng 1830 ac 1881: Horeb (1838), Centerville (1840), Bethel (1841), Soar (1841), Sardis (1843), Bethania (1847), Tabor (1848), Oak Hill (1850), Bethesda (1856), Salem (1862), Peniel (1870), Jackson (1880) a Coalton (1881). Sefydlodd yr Annibynwyr nifer o eglwysi yn fuan ar ôl sefydlu Eglwys Moriah. Ym 1841 sefydlwyd dwy eglwys, un yn Oak Hill, Sir Jackson a'r llall yn Tyn Rhos yn Sir Gallia. Yna, sefydlwyd: Centerville (1843), Carmel (1847), Berea (1850), Nebo (1855), Siloam (1860) a Bryn Hyfryd (1899). At hyn, sefydlodd y Bedyddwyr bedair eglwys: Ebenezer (1842), Centerville (1844), Oak Hill (1845) a Bethlehem (1869). Am gyfnod byr ffurfiwyd Eglwys Wesleaidd Gymreig yn Oak Hill hefyd. Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr eglwysi hyn, y gweinidogion a'u gwasanaethodd a'r ysgolion Sul a sefydlwyd yn: "Gwlad y Beiblau, a'r pregethau, a'r Ysgolion Sabbothol, ydyw, fel Cymru orfreintiog." Mae'r rhestr hir o eglwysi a sefydlwyd rhwng 1835 ac 1880 yn dweud llawer am feddylfryd yr ymfudwyr o Gymru a'u ffordd o fyw. Roedd crefydd yn rhan ganolog o'u bywydau beunyddiol a chyda'r efengyl yn eu calonnau a'u Beiblau dan eu ceseiliau yr aeth llawer ohonyn nhw i Ohio. Roedden nhw'n ufudd i'r traddodiad crefyddol y cawsant eu magu ynddo ac ar ôl cyrraedd y wlad newydd ymdrechodd yr ymfudwyr i barhau'r traddodiad hwnnw.Sefydlodd y Cymry 37 ysgol Sul ac eglwys yn ne ddwyrain Ohio ac yn ôl y Parch. R. D. Thomas yn Hanes Cymry America (1872), roedd 30 o Eglwysi M.C. yn Ohio ym 1871 gydag 1,997 o aelodau llawn a 6,350 yn mynychu'r gwasanaethau. Roedd gan yr Annibynwyr 40 eglwys gyda 2,490 o aelodau a 5,490 yn mynychu'r gwasanaethau. 18 eglwys oedd gan y Bedyddwyr gydag 845 aelod a 1,900 yn mynychu. John Jones Tyn RhosYmfudodd John ac Elizabeth Jones a'u 5 plentyn i Ohio ym 1838 ac ymgartrefodd y teulu yn Nhrefgordd Raccoon, Sir Gallia. Aethant ati yn fuan iawn i drefnu seiat yn eu cartref ac ym 1841 fe gyfnewidion nhw weithred darn o'u tir ar gyfer capel cyntaf yr Annibynwyr yn y gymuned a'r enw a roddwyd i'r capel hwnnw oedd 'Tyn Rhos', sef enw'r fferm yng Nghymru a adawodd John ac Elizabeth ym 1838. Sefydlwyd achos Tyn Rhos gan ddwsin o ymfudwyr Cymreig a nhw fu'n gyfrifol am adeiladu'r capel pren syml - hen gapel Tyn Rhos. Mae'r capel gwreiddiol yn bodoli hyd heddiw ac fe ellwch wylio Elizabeth Davis yn ei ddangos i'r Athro Hazel Walford Davies ar raglen "Breuddwyd Pedair" trwy glicio ar y ddelwedd isod (Cymraeg yn unig)>> Yn fuan iawn, roedd y capel pren yn llawer rhy fach i'r gynulleidfa gynyddol felly aethpwyd ati ym 1852 i godi capel arall, dafliad carreg o'r capel gwreiddiol. Gellir darllen mwy o hanes Tyn Rhos ynghyd ag atgofion rhai o'r Cymry a fu'n addoli yno yn: Nid sefydlu achos Tyn Rhos oedd yr unig gyfraniad a wnaeth John Jones i'r gymdeithas Gymreig yng ngwaelod Ohio. Mae'n bosib iawn ei fod wedi dylanwadu ar ei hen ffrindiau a'i gymdogion yn y famwlad a'u denu i ymuno ag ef a channoedd ar gannoedd o Gymry eraill yn Siroedd Jackson a Gallia. Broliai'r cyfleoedd newydd a'r tir yn yr ardaloedd hyn. "Codir yma braidd bob math o lafur ... y mae yma geirch da, ac arogl dda am y corn a'r cloron a ffa, beans. Y mae yma le da am bob math o ffrwythydd, a gall dyn fyw yma yn ddigon cysurus, os gwnaiff ymdrechu ychydig gyda rhagluniaeth". John Jones, Y Cenhadwr Americanaidd, t.246 Roedd cael y cyfle i berchen eu tir eu hunain yn gymhelliad mawr i'r Cymry cyntaf a aeth allan i Ohio felly mae'n rhaid bod yr hyn a oedd gan Jones i'w ddweud mewn llythyr ym 1845 wedi apelio'n fawr at nifer o ddarpar-ymfudwyr. Pe bai'r tir yn cael ei drin yn yr un ffordd ag y câi ei drin yng Nghymru, meddai, gellid tyfu cnydau helaeth yno. Pwysleisiodd hefyd fod digon o waith ar gael i'r Cymry yn y diwydiant haearn ac y gallai gweithwyr ennill rhwng $12 a $15 y mis a'u bwyd a gwely. Tybed faint o drafod fu ar y llythyr hwn a faint fu'n pwyso a mesur ei sylwadau'n ofalus yn ôl yng Nghymru?Mae'r llythyr John Jones Tyn Rhos ar gael yn llawn yma (Cymraeg yn unig) >> DiwydiantNododd Anne Kelly Knowles fod ardal Jackson a Gallia yn anarferol iawn ymhlith y cymunedau gwledig Cymreig yn America am ei bod yn cynnig cyfleoedd i ymfudwyr ym myd amaeth yn ogystal â chyfleoedd mewn diwydiannau gwahanol. Cymuned o amaethwyr oedd y gymuned Gymraeg hon yn Jackson a Gallia yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond roedd hi hefyd yn rhan o economi leol mwy o faint a oedd yn cynnwys y diwydiant haearn. Cafodd natur y gymdeithas wledig ei chwyldroi gyda dyfodiad y rheilffordd i Sir Jackson ym mis Awst 1853. Disgrifiwyd yr effaith a gafodd y rheilffordd ar yr ardal a sut y ffurfiwyd Oak Hill yn sgil ei dyfodiad gan Evan E. Davis yn Roedd y rheilffordd yn cynnal y ffwrneisi haearn wrth gwrs, ac yn ystod y cyfnod hwn roedd y diwydiant haearn - a'r ardal a elwid yn "Hanging Rock iron district" - yn prysur ledu i'r gogledd i gyfeiriad y cymunedau Cymreig. Yn fuan, sylweddolodd y Cymry fod ganddynt gyfle i gofleidio'r diwydiant newydd hwn a bod yn rhan ohono. "Seeing them [Americans] sweeping all before them, it came to mind among some of the Welsh to take a stab at what they could do." Thomas Ll. Hughes, Y Cyfaill o'r Hen Wlad (Ebrill, 1854), t.153 Roedd sawl ffactor o'u plaid: roedd y deunyddiau crai a oedd eu hangen i ddatblygu'r diwydiant ar gael yno'n barod sef pren caled, mwyn haearn a chalchfaen. At hyn, roedd llawer o'r Cymry wedi cael profiad o'r diwydiant haearn eisoes felly roedd ganddynt y sgiliau angenrheidiol i allu llwyddo. Ym 1854 felly, penderfynodd rhai teuluoedd yn ardal Horeb adeiladu ffwrneisi. Mae Gan nad oedd unigolion digon cefnog ar gael i ariannu mentrau newydd fel hyn, bu'n rhaid iddynt feddwl am ffordd wahanol o'i chwmpas hi a'r hyn a wnaethon nhw oedd cyfnewid gweithredoedd eu tir am gyfranddaliadau'r cwmnïau ffwrnais. Trwy wneud hyn, roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw'n cadw perchnogaeth ar eu cartrefi a'r adeiladau ar y fferm yn ogystal â chadw'r hawl i ffermio'r tir. Roedden nhw hefyd yn bod yn driw i'w hegwyddorion crefyddol trwy osgoi myn i unrhyw ddyled. Sefydlwyd tair ffwrnais haearn yn Sir Jackson sef Jefferson, Cambria a Limestone. Mewn llythyr at ei pherthnasau yn ardal Llanarth, Sir Aberteifi, disgrifiodd Martha James rai o'r newidiadau a brofodd ddechrau'r pumdegau: "May Llawer iawn o wahanieth yma yn awr ar amser y daythom ni yma [tua 1837] may y tir wedy codi ni chayr dim dir yn agos yn y Parte hyn heb o 15 i 20 Dollar yr erw os bydd tai ar dwr a phob Peth yn gyfleys a Prisie pob peth yn gyfatebol ... May ffwrneise [haearn] newyddion wedy ei bildio may 2 ohonynt o fewn 5 milltir ne lai i ni a rail Road yn rhedeg trwy y wlad o New York i Cincinaty ag oddi yno trwy state Virginia i Pittsburgh a Baltimore may cangen o honi yn dod o fewn 6 milltir ini mae hynny gwedy helby r Prisie ar rhyfel ofnadwy y dwyren yn codi Pris y llafyr ..." Daeth cryn lwyddiant i ran cyfranddalwyr Jefferson ac erbyn 1870 roedd llawer o Gymry cyfoethog iawn yng nghymuned Horeb ond roedd gwreiddiau'r llwyddiant diwydiannol hwnnw yn "The organizers and stockholders of Jefferson Furnace were endowed with rare ability and wisdom. This group and their relatives later invested their capital or talents in numerous other local industries." ddwfn yn y ddysgeidiaeth Galfinaidd a ddysgwyd iddynt yn y famwlad. Roedden nhw'n ymdrechu i osgoi unrhyw ddyled, câi'r Saboth ei barchu ganddynt bob amser ac roedden nhw'n rhedeg eu cwmnïau yn debyg iawn i'r ffordd yr oedden nhw'n rhedeg eu capeli. Roedd deg o fuddsoddwyr sylfaenol Jefferson yn flaenoriaid yn y capel a'r hyn a wnaethon nhw oedd cymryd y gwerthoedd a'r dulliau yr oedden nhw'n gyfarwydd â'u defnyddio i gadw trefn mewn cymdeithas a rhedeg capel, a'u haddasu ar gyfer byd busnes. Evan E. Davis, Ystyrir ffwrnais Jefferson fel mam y diwydiannau eraill a ddatblygodd yn yr ardal oherwydd buddsoddodd cyfranddalwyr y ffwrnais eu harian a'u sgiliau ym myd busnes - yng ngweithfeydd Y PresennolEr bod bron i 190 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i John Jones Tirbach a'i fintai ymgartrefu yn ne ddwyrain Ohio, mae'r cysylltiadau rhwng Cymry a'r rhan hon o'r dalaith yn parhau i ffynnu a gwneir ymdrech o hyd i hybu a chynnal y diwylliant Cymreig a sicrhau bod hanes yr ymfudo o Gymry ar gof a chadw. Ym mis Medi 2006 er enghraifft, cynhaliwyd y Gymanfa Ganu flynyddol yn Tyn Rhos, sy'n draddodiad yno ers 134 o flynyddoedd!Ym 1972, sefydlwyd yr Amgueddfa Gymreig yn Oak Hill gan Mildred Jenkins Bangert, Evan E. Davis, Ben R. Evans, D. Paul Morgan, y Parch. James A.M. Hanna a nifer o gefnogwyr eraill a derbyniwyd cymorth ariannol i'r fenter gan deulu Evan E. Davis a'r Oak Hill Savings Bank. Mae casgliad unigryw'r Amgueddfa yn adlewyrchu bywydau Cymry Oak Hill ac America gyfan ac fe ellir gweld clip fideo byr ohoni drwy glicio ar y ddelwedd ar y dde (Cymraeg yn unig). Digidwyd rhai o daflenni cynnar yr Amgueddfa fel rhan o Broject Cymru-Ohio: Ym 1996, sefydlwyd canolfan unigryw ym Mhrifysgol Rio Grande, Sir Gallia. Nod Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig yw "hybu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad pellach o etifeddiaeth Gymraeg a Chymreig - y tu fewn i Brifysgol Rio Grande ac yn y gymuned leol". Lleolir y Ganolfan bellach mewn adeilad a enwyd er anrhydedd i Elizabeth F. Davis. Ewch i wefan Canolfan Madog am ragor o wybodaeth. Deunyddiau a ddigidwydLlawysgrifau ac archifau Archif David Greenslade: Nebo Congregational Church - 111 Years: The Ninety-Ninth Welsh Gymanfa of The Central South East Ohio Association of The United Church of Christ Nebo (1971) The One Hundredth Anniversary of the Welsh Gymanfa: The Annual Conference Tyn Rhos a Nebo (1972) The One Hundred Third Gymanfa: The Annual Conference Welsh-American Heritage Museum, Oak Hill (1975) The One Hundred Ninth Gymanfa: The Annual Conference Welsh-American Heritage Museum, Oak Hill (1981) The One Hundred Tenth Gymanfa: The Annual Conference Tyn Rhos (1982) Oak Hill, Ohio - Now 1976 and Then 1876 Mae'n cynnwys "A Glimpse Of The Past" gan Mildred Jenkins Bangert a cherdd gan David E. Jenkins - "The Old Welsh Church" "Gŵyl Dewi Sant Gwledd", Oak Hill (3 Mawrth 1980) "Gŵyl Dewi Sant Gwledd", Oak Hill (6 Mawrth 1982) "Gŵyl Dewi Sant Gwledd", Oak Hill (5 Chwefror 1983) Deunydd Print Gweler hefyd: Deunydd ychwanegol LLGCCeir hefyd yng nghasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru sgript rhaglen radio arbennig a ddarlledwyd yn Ohio (10 Ionawr 1946) a Chymru (27 Ionawr 1946).BBC - BOCS 74 Clicennin - Ohio (Rhan Gymraeg y rhaglen a ddarlledwyd ar 27 Ionawr 1946) Ysgrifennwyd a chynhyrchwyd gan P. H. Burton. Philip Phillips - Adroddwr Tom Jones - John Jones Arthur Phillips - Llais 1 a'r Gyrrwr Trafodir y gwahaniaethau rhwng Cilcennin 1946 a Chilcennin 1818. Nodir y rhesymau pam yr ymfudodd trigolion Cilcennin i America: amodau byw ar ôl Rhyfeloedd Napoleon, rhenti a threthi uchel a'r degwm. Caiff John Jones ei bortreadu fel arweinydd pwerus a oedd, o bosib, yn adnabod rhai a oedd wedi ymsefydlu yn Paddy's Run eisoes. Llyfryddiaeth gyffredinolDeunydd Print Ben R. Evans, Memories of Tyn Rhos, Welsh Congregational Church, Gallia County, Ohio (1976). Cyhoeddwyd yn ddiweddarach yn Anne Kelly Knowles, Calvinists incorporated: Welsh immigrants on Ohio's industrial frontier (Chicago, 1997) J. P. Morgans, Cofiant y Parch. Robert Williams, Moriah, Ohio: yr hwn a fu farw Medi 10fed, 1876; yn nghyda sylwadau coffadwriaethol am ei anwyl ferch Mrs. Mary Parry (Utica, 1883) Traethodau Ymchwil Florence Jenkins Cope, 'A history of the Jackson, Ohio eisteddfod' (Traethawd MA anghyhoeddedig, Ohio, 1937; cedwir copi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sef NLW facs 90) Elinor Ann Ingham, 'Analysis of the sources relating to the emigration of the pioneers of 1818 from Cilcennin, Cardiganshire to Gallia/Jackson, Ohio' (Traethawd MSc Econ anghyhoeddedig Prifysgol Cymru, Aberystwyth 2003) Erthyglau Dienw, 'The Accidental Settlement of the Welsh in Gallia and Jackson Counties, O', The Cambrian, Cyfrol III, Rhif 3 (Mai/Mehefin 1883), tt. 129-131. Dienw, 'The Welsh Settlements in Ohio - Gallia and Jackson', The Cambrian, Cyfrol VI, Rhif 2 (Chwefror 1886), tt. 46-49. Dienw, 'Hewitt's Fork, Jackson Co., O', The Cambrian, Cyfrol I, Rhif 6 (1881), tt. 221-6. Dienw, 'Horeb, Jackson County, Ohio. By a Fostered Son', The Cambrian, Cyfrol V, Rhif 2 (Chwefror 1885), tt. 45-51. A. V. Evans, 'A History of the First Welsh Settlers in Gallia and Jackson Counties, Ohio' (mewn dwy ran), The Cambrian, Cyfrol VIII, Rhif 11 (Tachwedd - Rhagfyr 1888), tt. 322-5; Rhif 12, tt. 355-7. D. J. Evans, 'First Settlers in the Horeb Neighborhood (Jackson Co., Ohio)', The Cambrian, Cyfrol V, Rhif 2 (1885), t. 52. J. W. Evans, 'The Founders of the Welsh Settlement in Gallia and Jackson Counties, Ohio', The Cambrian, Cyfrol III, Rhif 6 (Tachwedd/Rhagfyr 1883), tt. 286-287. Y Parch E. I. Jones, 'The Early Welsh Churches of Jackson and Gallia Counties, Ohio' The Cambrian, Cyfrol XXIII, Rhif 2 (Chwefror 1903), tt. 53 - 60. John Jones, 'Hanesiaeth Gartrefol: Sefydlfa Gymreig Swydd Gallia', Y Cenhadwr Americanaidd, Cyfrol VI, Rhif 68 (Awst 1845), tt. 246-7. William Harvey Jones, 'Welsh Settlements in Ohio', (mewn tair rhan) The Cambrian, Cyfrol XXVII, Rhif 7 (tt. 311-17); Rhif 8 (tt. 344-50); Rhif 9 (tt. 395-9) (Gorffennaf-Medi 1907). David A. Lloyd, 'The Moriah Calvinistic Methodist Church, Jackson County, Ohio', The Cambrian, Cyfrol IV, Rhif 4 (Ebrill 1884), tt. 108 - 111. Adroddiadau papur newydd am y seremoni a gynhaliwyd yn Aberaeron i blannu derwen er cof am y Cymry a ymfudodd i dde ddwyrain Ohio: 'Prelude To The Oak Hill Rush', The Cambrian News (11 Mai 1979), t.20. 'Tree', The Cambrian News (18 Mai 1979), t.14. 'Oak Tree Ceremony on Friday', The Cambrian News (25 Mai 1979), t.1. Arall Catalog Amgueddfa Gymreig Oak Hill Mae'r rhagymadrodd yn cynnwys hanes cymunedau Cymreig Siroedd Jackson a Gallia gan Dr Marcella Barton, Cyn Gyfarwyddwr Canolfan Madog, Prifysgol Rio Grande. ![]() DolenniCanolfan Madog Prifysgol Rio Grande Amgueddfa Gymreig Oak Hill Arwyddion Hanesyddol Ohio (Ohio Historical Markers) |