Dolen i brif wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru Fersiwn i'w argraffuE N G L I S H
Ychwanegu hwn at Fy AlbwmYchwanegu hwn
at Fy Albwm

Cliciwch i weld map mwy

Cafwyd hyd i'r rhain wrth chwilio'n ddiweddar:

Tyn Rhos
Jefferson
Paddy's Run
Moriah
brics

Hafan > Lleoedd > Sir Mahoning, Ohio

Sir Mahoning, Ohio

Youngstown a Crab Creek


Youngstown

Denwyd nifer o Gymry i dref Youngstown yn ail hanner yn bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y cyfleoedd gwaith a gynigid yn y melinau rholio a'r gweithfeydd haearn a glo. Credir bod dros 800 o Gymry yn byw yn yr ardal ym 1872 a chynyddodd y rhif hwnnw i tua 1,500 ym 1890.

Roedd gan yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, a'r Trefnyddion Calfinaidd gapeli yn Youngstown.
dogfen oEwch i ddarllen mwy amdanynt yn Hanes Cymry America gan R. D. Thomas >>

Deuai'r Cymry at ei gilydd i gynnal eisteddfodau llwyddiannus yn Youngstown ac un o ddigwyddiadau pwysicaf y calendr Cymreig, ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oedd aduniad blynyddol Cymdeithas Arloeswyr Cymreig Siroedd Trumbull a Mahoning.

Crab Creek

Saif pentref Crab Creek tua 2 filltir i'r gogledd o Youngstown. Yn ôl R. D. Thomas, Thomas Morgan - rheolwyr y gwaith glo lleol - oedd un o'r Cymry cyntaf i ymgartrefu yma. Datblygodd y gymuned yn raddol ac erbyn 1872 amcangyfrifir bod 250 o Gymry wedi ymgartrefu yn yr ardal.
dogfen oHanes yr Eglwys Annibynnol a ffurfiwyd yn Crab Creek >>

Deunyddiau a ddigidwyd


dogfen oNLW 21578E: Cofrestr Arloeswyr Cymreig Siroedd Trumbull a Mahoning (1898 - 1922)

dogfen oNLW 21577E: Llyfr Cofnodol Cymdeithas Pioneers Cymreig Siroedd Trumbull a Mahoning, Ohio (1895-1905)

dogfen oDyddiadur Lewis Humphreys (1866-1868)

dogfen oLlythyr gan E. a Mary Evans a'r plant, Youngstown

dogfen oAlbwm llofnodion yn cynnwys cofnodion gan unigolion o Ohio

1776 - Bi-Centennial - 1976 Gymanfa Ganu Program
Youngstown [?]
dogfen oRhaglen Saesneg >>

Ceir disgrifiadau byr o Youngstown a Crab Creek yn:

dogfen oR. D. Thomas, Hanes Cymry America (Utica, 1872) tt. 130-135



Gweinyddu