|
Cafwyd hyd i'r rhain wrth chwilio'n ddiweddar: Venedocia, Sir Van Wert, OhioAr y dudalen hon: Y tri theulu cyntafYm mis Mai 1847 cychwynnodd tri theulu ar eu taith o Gymru i'r Unol Daleithiau. Hwyliodd William Bebb, o Riwgriafol, Darowen, Thomas Morris o Ddolygweiddil, Trefeglwys, ac R. Jervis o Lanbryn-mair a'u teuluoedd ar long yng nghwmni 60 o Gymry eraill a glanio'n ddiogel yn Efrog Newydd chwe wythnos a thri diwrnod yn ddiweddarach.Aethant yn eu blaenau wedyn i Ohio a chyrraedd Paddy's Run ymhen pythefnos. Arhosodd y teuluoedd yno dros y gaeaf ond fe aeth William Bebb a'i gefnder o'r un enw, a oedd yn llywydroaethwr Ohio ar y pryd, ar daith drwy Siroedd Allen a Van Wert i chwilio am dir addas i'w brynu. Prynwyd tir yn Nhrefgordd York yn Sir Van Wert ac ym mis Ebrill 1848, symudodd y teuluoedd yno a dechrau codi cabanau pren, clirio'r coed a gwneud y tir yn hawdd i'w drin. Dyma gnewyllyn y sefydliad Cymreig a'r dref sy'n adnabyddus heddiw fel Venedocia. Roedd bywyd yn anodd i'r arloeswyr hyn. Nid oedd llwybrau na ffyrdd yn yr ardal ac roedd y rheilffordd agosaf tua 100 milltir o'r sefydliad. Roedd dwy siop, swyddfa bost a melin tua 8 milltir i ffwrdd - lle mae Delphos heddiw - a dyna lle'r âi'r Cymry i brynu a gwerthu ond roedd yn rhaid iddynt deithio trwy goedwigoedd trwchus a thir corsog i gyrraedd y dref. Anfonodd William a Margaret Bebb ddau lythyr adref ym 1850 yn disgrifio'u hamodau byw a'r gymdeithas Gymreig yn yr ardal. Datblygiad y gymuned GymreigYn fuan iawn, daeth rhagor i ymgartrefu yn ardal Venedocia. Dyma rai o'r Cymry a symudodd yno:
Yn ôl y "Lle coediog, gwastad, a gwlyb, ydyw; ond pan sychir y tir, ac y diwyllir ef yn dda, bydd yn ardal ffrwythlon ac iachus. Ceir yno bob math o goedydd gwerthfawr." Ansawdd y tir oedd yn denu llawer i'r ardal. Dywedir mai dyna lle'r oedd y tir amaethyddol gorau yng ngogledd orllewin Ohio ac yn ôl R. D. Thomas roedd modd Y Parch. Michael D. Jones o'r Bala oedd y cyntaf i bregethu yn Venedocia, ym mis Mehefin 1848. Sefydlwyd Eglwys Salem gan Y Parch. Howell Powell ym 1849 a'r adeg honno roedd 15 o aelodau: William a Margaret Bebb a'u tri phlentyn, Richard Jervis a'i wraig, Thomas Morris a'i wraig, David Owen a'i wraig, Edward J. Jones a'i wraig, Mrs. Richard Jones a David M. Jones. Codwyd y Capel cyntaf ym 1851/52 a bu'r Parch. Hugh Pugh yn gweinidogaethu yno rhwng 1854 ac 1868. Cynhelid yr holl wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg tan i Eglwys Bresbyteraidd Venedocia gael ei sefydlu ym 1895 a chyhoeddwyd adroddiadau blynyddol Eglwys Salem yn Gymraeg tan 1917. Y PresennolMae awyrgylch Gymreig Venedocia yn parhau hyd heddiw. Mae rhai o ddisgynyddion yr ymfudwyr yn ymdrechu i gynnal diwylliant Cymreig yr ardal. Maent yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi a heb os, dyddiad pwysicaf y calendr o hyd yw'r Gymanfa Ganu flynyddol a gynhelir yn Eglwys Bresbyteraidd Salem. Deunyddiau a ddigidwydLlythyr dyddiedig 10 Hydref 1850 at Griffith Owen, Vaner, Llanelltyd, Dolgellau, E. W. Evans ac eraill yn ardal Dolgellau gan William a Margaret Bebb. The Annual Gymanfa Ganu: Salem Presbyterian Church Venedocia (1984) Gymanfa Ganu keeps heritage alive [Venedocia] Ceir disgrifiadau byr o Siroedd Van Wert a Putnam yn: Llyfryddiaeth gyffredinolY Parch. J. P. Morgan, 'Early History of the Welsh Settlement in Van Wert County, Ohio', The Cambrian Cyfrol II, Rhif 1 (Ionawr/Chwefror 1882), tt. 1-5R. Jervis, 'Adgofion am Ddechreuad Preswyliad y Cymry yn Venedocia, Van Wert Co., Ohio', Y Cyfaill (1894), tt.286-7 a tt.365-6 DolenniGwefan Venedocia: http://www.venedocia.org/ |