Link to the National Library of Wales' main website Printer-friendly versionC Y M R A E G
Add this to My AlbumAdd this to
My Album


Link to clickable map

Recent searches on this website found:

Gymanfa
Madog Center
Moriah
voyage
Cincinnati

> > Welsh Community of Gallia County

A letter by John Jones Tyn Rhos


(Only available in Welsh)

John Jones, 'Hanesiaeth Gartrefol: Sefydlfa Gymreig Swydd Gallia', Y Cenhadwr Americanaidd, Vol. VI, No. 68 (August 1845), pp. 246-7.



Mr. Golygydd, - Dymunaf arnoch roddi lle i'r ychydig linellau canlynol yn rhyw gongl o'ch Cyhoeddiad clodwiw. Wrth ddarllen tudalenau y Cenhadwr o fis i fis, yr wyf yn gweled rhyw duedd mewn llawer i ganmol ei fangre. Llwydd hynt i bawb i fyw yn dda ac yn dduwiol yn eu preswylfeydd. Ond pa achos sydd i neb i genfigenu wrth y llall am ganmol ei ardal? Yr wyf finau yn teimlo rhyw awydd ynof i ddyweyd gair am y sefydlfa hon. Y mae gair gwan gwedi rhedeg, yr wyf yn meddwl, braidd trwy holl Sefydlfeydd Cymreig America i'r sefydlfa hon, a hyny gan lawer nas gwelsant y lle hwn yn eu bywyd. Mi a wn hyny, o herwydd i mi eu clywed pan oeddwn yn dyfod yma trwy Pittsburgh gyntaf. Yr oeddwn yn eu holi, pa beth oedd yr achos; a'u hateb oedd, fod y tir yn rhy wael i godi cynaliaeth, a thrwy hyny ei fod yn lle prin am ymborth. Ond erbyn hyn yr wyf gwedi profi i'r gwrthwyneb, a gallaf ddyweyd fod y dywediadau hyny yn anwiredd, o herwydd yr wyf gwedi ei threio hi am yn agos i saith mlynedd. Y mae rhai yn canmol Illinois, ac ereill Wisconsan, ac ereill Iowa. Dymunwn lwydd i bawb ag sydd gwedi myned yno i gael hir hoedl i fwynhau o gynyrch y wlad dda hono. Mae yn bur debyg nad yw y ddaear yma mor ddofn ag yno; ond yr wyf fi yn dra diolchgar i'r Arglwydd am fy nhywys i'r fan hon. Codir yma braidd bob math o lafur; mae yma yleni gnwd o wenith hynod o dda; yr ydym wedi dechreu ei dori ar yr unfed-ar-bymtheg o'r mis hwn (Mehefin). Y mae yma geirch da, ac arogl dda am y corn a'r cloron (potatoes) a ffa, (beans). Y mae yma le da am bob math o ffrwythydd, a gall dyn fyw yma yn ddigon cysurus, os gwnaiff ymdrechu ychydig gyda rhagluniaeth. Mae rhai dynion yn dysgwyl ar ragluniaeth i ofalu am danynt heb iddynt eu hunain wneud dim. Mae rhai i'w cael felly hefyd mewn pethau ysbrydol, yn dyweyd nad oes ganddynt hwy ddim i'w wneud at achub eu heneidiau, rhag y llid a fydd.

Yr wyf yn meddwl pe bai y tir yma yn cael ei achlesu a'i galchio, yn yr un modd ag yr oeddym yn trin y tir yn Nghymru, a byddai yma ryw gnydau hynod o doreithiog.

Gair yn nesaf am gyfleusterau y lle hwn, - Y mae y melinau yma yn hynod o gyfleus. Yr wyf y meddwl y gallwn ymffrostio yn hyn gystal a neb yn America. Y mae y farchnad hefyd yn ddigon cyfleus, sef Galipolis. Ceir yma werthu pob math o nwyfau am arian parod, ac fe brynir yma hefyd bob peth ag sydd yn angen ar ddyn, yn agos mor rhad a Pittsburgh a Cincinnati. Ac y mae hefyd werthdai (stores), ar hyd y wlad yn gyfleus i bawb, yn derbyn pob math o foddion yn gyfnewid.

Mae yma hefyd ddigon o ffermydd parod ar werth, o 40 erw hyd yn 500; ac y meant yn eu cynyg am bris rhesymol iawn. Mae y lle hwn yn hynod o iachus, a digon o ddwf iachus sef ffynonau ddigon ar bob ffarm. Y mae hyn yn beth hynod o dda. Yr achos eu bod yn werthu eu llefydd yw, eu bod gwedi clywed fod rhyw le dedwydd draw; ac fe allai erbyn cyrhaedd yno ei fod gwedi cymeryd ei adenydd a myned dros y Mynyddoedd Caregog tuag Oregon; a thyna fel y mae y ddaear yn cael ei phoblogi.

A pheth arall hefyd sydd yn lawer iawn o help i'r ardal hon yw y ffwrneisydd. Y mae digon o waith ynddynt i Gymry bob amser, ac nid yw y cyflogau ddim yn fach iawn. Y mae gweithwyr (laborers) yn cael o $12 i $15 y mis a'u bwyd a gwely, a chael ei harian am eu gwaith amser y mynont.

Yn awr cyn rhoddi fy mhin o'm llaw, dywedaf air am y cyfleusterau crefyddol, tai addoliad. Y mae gan y Trefnyddion Calfinaidd saith, o'r Cynulleidfawyr dri, a'r Presbyteraid Cymreig ddau, a'r Bedyddwyr ddau, ac un eglwys Esgobaethol. Ond dyalled y darllenydd fod rhai o'r addoldai hyn yn swydd Jackson, o herwydd y mae sefydlfa Gymreig Jackson a Galia yn cael ei galw yn un. Yn awr yr wyf yn terfynu, gan ddymuno llwydd yn mhob peth da i'r Cenhadwr gario ei genadwri yn ffyddlon i bob Cymro trwy America.

John Jones
Ty'n Rhos, Mehefin 20, 1845
Gweinyddu