Link to the National Library of Wales' main website Printer-friendly versionC Y M R A E G
Add this to My AlbumAdd this to
My Album


Link to clickable map

Recent searches on this website found:

Madog Center
Ezekiel Hughes
Welsh Hills
Moriah
Llanbryn-mair

Home > Places > Portage County, Ohio > Letter by Job Davies

A letter by Job Davies, Portage County, to John Davies


Only available in Welsh

Llythyr o America: Mount Jackson. December 18, 1830, Seren Gomer (May and July 1831) pp.144-5; pp.203-4


Fy hen Gyfaill cyfeillgar, - Yr wyf wedi dala y cyfleusdra yma i ysgrifenu hyn o linellau atoch, gan obeithio y bydd iddynt eich cael chwi a'ch teulu mewn iechyd, fel ag y meant yn fy ngadael innau a'm teulu yn bresennol, yr hyn sydd yn rhodd fawr; ond am Dafydd fy mab, nid wyf yn gwybod dim o'i hanes, oddiar pan diriasom gyntaf mewn lle a elwir Perthambay, yn Nhalaeth Jersey Newydd. Ofni yr wyf iddo fyned i'r môr, o herwydd yr oedd ei fryd ar forio, a minnau yn groes i hyny, er pan welais y dull yr oedd y morwyr yn gorfod bod; ond efallai y gwna yn dda; ac os da y gwna, da y caiff; ac os na wna yn weddol, fe ddaw i edrych am danom ni cyn bo hir. Cof sydd genyf am lawer o droion y buom yn nghyfeillach ein gilydd, ac ni welais i un o'r troion hyny na fyddai rhyngom ddigon o ymddyddan, - yr amser fyddai yn wastad brinaf; ond meddyliwch pa fodd y byddai y gyfeillach pe baem yn cyfarfod yn bresennol; eithr y mae y pellder sy rhyngom yn diddymu ein presennoldeb yn llwyr y nail oddiwrth y llall, ond trwy gyfrwng o'r fath yma ni a allwn gael clywed hanes ein gilydd.

Yn awr, yr wyf yn golygu rhoddi ychydig o hanes gwirioneddol fy helynt. Yn gyntaf, trwm iawn oedd genyf ymadael a chymmydogaeth ag oedd i mi mor gyfeillgar, heblaw yr amryw gyfeillion cariadus ag oedd genyf yn mhell ag yn agos; fel nad oedd fan, pa le bynag yr awn, na cyfarfyddwn a chyfellion caredig, a hyny sydd hysbys i chwi a phawb o'm cydnabod; ond yn awr yr wyf yn gwbl amddifad o'u presenoldeb; eithr buan y rhed y meddwl ar draws yr hen gyfeillach gynt. Yn Aberystwyth, wrth fyned i'r llong fechan hono, i hwylio tua Llynlleifiad, yr oedd y plant yn wan-galon iawn, ac yn frawychus, am rai oriau, yn enwedig y rhai leiaf o honynt; ond hwy a ddaethant ati yn fuan iawn, ie, i hoffi ar y môr yn dda rhagorol, fel ag yr oeddent yn dysgwyl yr amser i hwylio o Lynllefiad; ac nid oedd arnynt y mesur lleiaf o fraw a dychryn, ond pob un yn llawen a siriol. Yr oedd dau grwth yn cael eu chwarae ar fwrdd y llong, a digon o ddawnsio gyda hyny, yr hyn oedd yn boddloni y plant yn fawr. Yr oeddym ar y bwrdd rhwng teithyddion a gofalwyr am y llong, yn nghylch 130; rhai o bob oedran, a 6 wythnos i 70 o flynyddau, a rhai o bob ddull ac agwedd. Fe gafodd fy nheulu i dwymyn y môr, i ryw raddau; ond yr wyf yn meddwl i mi ddyoddef cymmaint â hwynt oll. Daethant hwy yn gryn dda ym mhen ychydig dydduiau; ond bu i 18 diwrnod cyn fydof i allu cymmeryd fawr o luniaeth; ac ychydig iawn oeddwn yn allu gymmeryd wedi hyny, hyd nes aeth y bwyd i ddechrau prinhau yn y llong, ac yna yr oedd teisen galed ac ychydig o gig hallt mor felys a phe buasent y danteithion penaf. O'm rhan fy hunan, ni fuasai dim achos i hyny fod; canys yr oeddwn i wedi paratoi llawer rhagor nag a aeth at gynnaliaeth fy nheulu, ond yr oedd yno lawer nad oedd ganddynt hanner digon; o ganlyniad yr oedd y rhai hyny ag oedd a pheth i hebgor, yn rhoddi i rai ac yn gwerthu i ereill, tan y daethom mor ysgafn erbyn gweled tir, fel nad oedd trwy gorff y llong rhwng 130 o ddynion, ond oddeutu tri phwys ar ddeg o fara, ac ychydig o gig hallt. "Ond dros brydnawn yr erys wylofain, ac erbyn y boreu y bydd gorfoledd;" ganys gorfoledd mawr oedd gan bob un o honom ag oedd mewn oedran, wrth weled hardded oedd y golwg ar y wlad oeddem â'n tynfa iddi; ac mor hyfryd oedd genym glywed ceiliogod yn canu, dâ yn brefu, a chwn yn cyfarth; ac mewn gwirionedd yr oedd pob swn yn hyfryd iawn, ac ol bod ddau fis heb glywed dim ond swn yr hwyliau a'r dyfroedd, ac heb weled fawr ond y môr a'r awyr; ac yn ofni y byddai yn rhaid i ni gyda'n gilydd ddyoddef newyn, pan yr oedd y bwyd yn nesu i ddarfod, ac heb ddim tir yn agos, a'r gwynt yn wrthwynebus, fel na wyddem pa bryd y celem dir; ond trwy drugaredd, ni ddyoddefais i na'm teulu ddim eisieu; ond gweledd rhai hi yn lled fain, yn gorfod byw wrth deisen y dydd, a hanner pwys o gig hallt; - yr oedd hyny, a'i ranu ar ddwywaith, yn dorad lled gwta i ddyn yn ei gyflawn faintioli, ond ni fu dim taro ar y Cymry am deisen a chig hallt. Pan ddaethom i dir, a phawb yn iach ac yn siriol ei gwynebpryd, yr wyf yn meddwl y gallaf ddyweddyd yn hyf na welais i erioed gymmaint a chant o ddynion yn yr un fwynhad, heb un yn tyny yn groes; ond yn mhen tri diwrnod, O! y gwasgar a wnaed! Rhai â'u hwynebau i bob parth, fel nas gwyddom fawr o hanes ein gilydd; ond arosais i a'm teulu yno wythnos, ac yna hurais ddwy fên fechan i fyned â ni i Pittsburgh, sef o ddeutu 360 o filltiroedd, y rhai deithiasom mewn pedwar diwrnod ar ddeg; a phan ddaethom i'r lle hwnw, gwelsom yno lawer o Gymru, y rhai oedd yn gydnabyddus â hwy Gorphwysais yno bythefnos, ond nid oedd y lle hwnw yn cytuno yn wych ag iechyd fy nheulu i; gan hyny mi a brynais geffyll gwych iawn am 60 dollar a ffrwyn a chyfrwy newydd am un ddollar ar ddeg, ac yna aethym allan i'r wlad i edrych am le ar werth. Teithiais rai cannoedd o filltiroed, gan gael llawr o ffermi ar werth, pa le bynag yr awn; ond nis gallwn gael un yn rhydd, lle byddai pobl yn byw arnynt, cyn y dydd cyntaf o Ebrill; - dyna yr amser symud yma fel dydd Gwyl Mihangel gyda chwi. Yn awr, dechrauais edrych am le bychan cysurus, i gadw buwch a cheffyl; a chefais un yn agos i bentref a elwir Mount Jackson, yn nhalaeth Philadelphia, ac yna yr oeddwn yn gweled y cawswn ddigon o amser i edrych am fferm, o hyny hyd Ebrill. Gwedi hyny mi droes yn fy ol i Pittsburgh at fy nheulu, ac a huriais ddwy fen yr ail hynt. Nid oedd genym y pryd hyny ond 55 o filltiroedd, ac yna ni a ddaethom i orphwysfa dawel; a gwedi i mi brynu buwch, a phob anghenrheidiau i'r teulu, mi a gymmerais hynt arall, i edrych am fferm ar werth. Mi deithiais lawer, a chefais lawer o gynnygion da, (ond yr oeddwn yn gobeithio bod eu gwell yn ol) hyd nes y daethym i le yn nghalaeth Ohio, cantref Palmyry, a swydd Portage; lle y cefais fferm yn 318 o gyfeiriau, ond nid oedd dim ond 36 o gyfeiriau wedi eu glanhau a'u llafurio, a rhyw fath o dŸ byw, ac ysgubor fechan, a phedwar o gaeau wedi ei hamgylchu â chledrau. Ni welais i yr un clawdd oddiar pan ddaethym i'r wlad hon; a'r achos o hyny yw, fod digon o goed yma; ac heblaw hyny, y mae y ddaear hyn mor fras, ac mor rhydd, fel nad ellir cael gau y cloddiau i sefyll, fel yr wyf yn barnu. Myfi a brynais y lle hwnw am 3 dollar y cyfair, ac yr wyf yn ei gael yn rhydd y dydd cyntaf o Ebrill; ond y mae rhyddid genyf yn awr i weithio y peth a fynwyf arno, oddiar y dydd y prynais ef. Y mae y tir mor dda, fel nad oes mo'i well, braidd mewn un parth, heb fyned i waered i lan yr afon Ohio; ond y mae mor afiach yn y parthau hyny, fel nad elwn i yno pe buaswn yn cael tir am ddim, gan fy mod yn ystyried iechyd o flaen pobpeth. Mae gennyf fi yn awr 10 o ddynion, wrth y cyfair, yn arllwys tir; - rhai am 3 dollar, rhai am 2½, a rhai am 2¼ y cyfair. Maent hwy i dori i lawr, a llosgi y cwbl i ffwrdd, fel y byddo y tir yn brod i'r aradr; ac y mae genyf ddynion yn hollti cledrau at gauad y tir. Yr wyf wedi cytuno am hollti 4000, ac iddynt hwy eu cludo at y lleoedd y byddwyf fi am eu cael, a'u gosod i fynu o gylch y caeau; yna y mae y cledrau i gael eu rhifo, a'r tâl am danynt yw ¾ dollar y 100; ac fe wna 100 o gledrau o bedwar perc i bedwar a hanner; a'u gosod fel nad allo un creadur fyned trwyddynt na throstynt. Yr wyf hefyd wedi cytuno a cael am adeiladu tŸ i mi , yr hwn sydd i fod yn 70 troedfedd o hŸd, yn 30 o led, ac yn 15 o uchder, hyd yr ysgwar. Y mae hefyd i adeiladu march-dai, beudai, ac ystordai, &c, y rhai ydynt oll i fod yn barod erbyn Gorphenaf, pryd y byddwyf fi i dalu iddo o gylch 170 o dollars am eu waith. Nid oes dim ceryg yn y parth hwn o'r wlad; gan hyny, â choed yr ydys yn adeiladu y cwbl. Ag estyll hefyd yr ydys yn toi y tai, ac yn byrddio y lloriau; o ba herwydd, pan fyddo ffermwr yn symud, â yn fynych â'i dy gydag ef iddei drigfod newydd.



(Rhifyn Gorffennaf)

Yn awr yr wyf yn golygu dangos rhywfaint yn mhellach o hanes y lle a brynais. Mae ynddo tua 100 cyfair o dir sych, eithaf naturiol i wenith, rhyg, neu geirch, o honaw ei hunan, heb na thail na chalch; ac yn ol pob hanes, fe barha i gnydio dros 20 mlynedd, heb ddim achles, onitê y mae tiroedd o'i gylch wedi gwneyd felly. Mae ynddo tua 200 cyfair o dir ag a ddwg wair neu borfa yn eithaf naturiol; - mae hwn yn rhy fras, ac isel, a gwastad i ddwyn gwenith neu ryg, cyn y caffo amryw gnydiau o Ÿd Undiaidd; ond y mae digon yn y 100 a grybwyllais at lafur. Nid oes braidd gareg i'w chael yn un man ar hyd y tir, ac y mae y ddaear rywbeth rhwng clai a thywod. Nid oes yr holl gorff y fferm ddim cyfair, yr wyf yn meddwl, na ddwg wair neu lafur, heblaw yr hyn sydd dan y ffordd a'r afon. Mae taith-gerbyn yn rhedeg heibio y tŸ ddwy waith yn yr wythnos, o Ragenna i Warren; ac y mae afon yn rhedeg o un pen i'r llall i'r tir, trwy ei ganol. Mae y fferm yn filltir y ffordd hono, ac yn hanner milltir o led mewn gwlad wastad iawn; ac y mae y ffyrdd mor wastad ac uniawn, fel y gwelwch dair milltir o'ch blaen fel y saeth. Nid oes yma neb yn cylymu eidion yn y gauaf; ond y rhai sydd ag ychydig o lun arnynt yn adeiladu tai allan iddynt, - eithr annhrefnus iawn y meant yn gyffredin yn y parthau hyn. Maent, mewn rhai mannau, yn hau llawer iawn o wenith, heb erioed roi aradr yn y tir; ond ei lyfnu; - a chan eu diogi, gadawant y tail yn domeni mawr o gylch y tai. Tai annedd gwaelion iawn sydd gan y rhan fwyaf o honynt; ond am y bola, dyma y fan; nid yw ddim ganddynt os na fydd tri neu bedwar bath o enllyn ar y tro yn cael eu bwyta. Nid ynt yn ystorie3d y bwyd yn werth dim, o herwydd fod y wlad mor llawn o drugareddau o bob bath, ond arian, y rhai ydynt brinion iawn; ond y meant yn gwneyd yn bur dda hebddynt, trwy gyfnewid y naill beth am y llall. Am gaws, ni wyddir y ffordd i'w wneuthur yn y wlad hon; eithr y llaeth a deflir i'r moch.

Mor bell ag yr wyf fi yn deall, nid oes achos i neb ofni dyfod drosodd i'r wlad hon; canys bydd yn sicr o gael bywioliaeth gysurus. Os bydd arian ganddo, dyma y fan iddo gael eu llawn werth am danynt; ac os crefftwr, dyma y wlad iddo wneyd bywioliaeth gysurus, wrth weithio am tri diwrnod yn yr wythnos; ac os gweithiwr tlawd, a theulu mawr, fydd, ffarwel byth am brinder lluniaeth, os bydd ynddo duedd gweithiol O, na chlywwn am dlodion, plwyf Dihewyd, eu bod wedi eu trosglwyddo drosodd i'r wlad hon bob un, y rhai a allant weithio a'r rhai na allent; o achos y mae yma olygydd yn cael ei benodi bob blwyddyn yn mhob cantref, ond nid oes hanes fod na fyth yn pwyso arnynt am gynnorthwy o achos tlodi. Mae y gyfraith yma mor deg a thyner ag sydd bosibl, ac yn wir yn rhy dêg gyferbyn a lladron. Nid oes crogi yma am ddim, ond lladd; lladratent a fynent, nid oes dim ond carcharu; ond nid oes fawr o son am ladrad, ond ambell geffyl da. Gwlad rydd yw hon, ac y mae pob un o'i phreswylwyr yn gorfoleddu am y rhyddid hwnw, ac hawdd y gallant. Mi glywais lawer o ddiolch yna am eu bod wedi eu geni mewn gwlad rydd; - ai dyna y fath beth yw gwlad rydd? Gwlad na feiddia neb o'i phreswylwyr wneuthur â'i eiddo eu hun fel y byddo da yn ei olwg. "Wel, wel, (medd rhai) mae y rhyddid hwnw genym o addoli y dull y mynom, a chyda'r blaid y mynom." Gwir yw, nid eisiau eu haddoliad oedd arnynt, ond eisieu eu harwain; a gwedi gwneyd y gyfraith yn ddigon diogel, fel pwy bynag a driniai y ddaear mewn rhyw fodd, eu bod hwy yn sicr o'u tal ac yna fe ddaeth rhyddid; diolchwn am y fath! Gwlad ag y mae ei chyfreithiau y fath, fel nad yw yn cadiatau i un o'i deiliaid dalu arian y naill i'r llall, heb ran yn cael ei chymmeryd ymaith; a chyllid mawr yn cael ei gyfodi ar bob peth braidd ag a bryno dyn at ei wasanaeth, er mwyn cadw traws-arglwyddi arnoch. Parhewch i ddiolch am eich bod wedi eich geni mewn gwlad rydd!

Clywais rai yna yn dweyd na chymmerent lawer am fyned i America, rhwng y creaduriaid rheibus. Nid oes yn y parth hwn un o'r cyfryw i'w gael, na un gormeswr ychwaith; ond pawb yn mwynhau ffrwyth eu llafur eu hunain yn gysurus. Ond pe byddent y mae yn hawddach ymgadw rhagddynt na rhag y bwystfilod rheibus sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon. Da y dywedodd y prophwyd am danynt, wrth eu galw yn gwn gwancus, na chydnabyddant eu digon. Yr wyf yn dywedyd y pethau hyn, fel y caffoch iawn olwg ar y wlad hon. Yr wyf fi a'm teulu yn iach, ac wrth ein bodd; a phe bawn yn ceisio perswadio fy nheulu i ddyfod yn ol i aros yna, cawn ddeg mwy o drafferth nag a gefais wrth ei hannog i ddyfod yma. Yn awr, yr wyf yn meddwl fy mod wedi dangos rhywebeth o natur prynu tir, ei glirio, adeiladu, &c.' ac yr wyf yn gwybod y daw fy fferm i yn fuan i gadw 150 o anifeiliaid, haf a gauaf. Y ffordd sydd genym i wneyd tir gwair, yw tori ymaith y coed, eu llosgi, yna heuir math o hadau ynddo, a llyfnir ef, ac fe dyf gwair tal a thew drosto oll. Os byddwch yn bwriadu dyfod i'r wada hon, ni chewch well ral na'r un ag wyf fi yn preswylio ynddi. Mae yma eich dewis o ffermi, o bob pris, yn ddigon agos; a phe bawn yn gwybod y caech eich boddloni yn gystal a fi, gwnawn bob peth yn fy ngallu i'ch denu drosodd. Yr wyf am wneuthur cymmydogaeth o Gtymry yn y fan hon; ac y mae tri yn awr ar eu ffordd o Philadelphia, sef Lewis y gof, Cwmpib, Jenkin Jones, Rhydyfydyr, a Thomas Davies, nai i Evan Jones, Nantgwynfaen. Yr wyf wedi derbyn llythyr oddi wrthynt eu bod hwy yn dyfod gyda'u gilydd, ac yr wyf yn dysgwyl amryw eraill hefyd o Gymru. Yr wyf wedi addaw ysgrifenu at amryw gyfeillion yn fy hen gymmydogaeth; ond os dangoswch chwi y llythyr hwn iddynt, ateba yr un dyben, gan nad oes genyf ond yr un gwirioneddau i anfon atoch oll, fy hen gyfeillion anwyl; ac hyderaf y caf weled rhai o honoch yma yn fuan, i brofi mai gwirionedd wyf yn ddywedyd. Cofiwch fi yn garedig at bawb o'm hen gydnabod.

Dau fath o ddynion y cynghorwn hwynt i beidio dyfod i'r wald hon: 1. Y dyn sydd yn ymhyfrydu yn nghaethiwed dyn gwan. 2. Y dyn na fedr gymmmedroli ei hun yn wyneb yfed gwirod. Os bydd rhyw un yn bwriadu dyfod i'r parth lle yr wyf fi yn myned, gwell iddo ddyfod i Philadelphia neu Baltimore. Mae genyf fi daith o 40 milltir yn Ebrill nesaf, ac yna byddaf 455 milltir o'r lle y tirais.

Meddyliais y byddai yn dda genych glywed prisiau pethau yma. Wele rai o honynt: - Ceffyl gwaith, o 40 i 50 dollar; huwch gyffredin, o 9 i 10; defaid, o ¾ dollar i un; gwenith, ½ dollar y pwysel; rhyg, ¼ dollar, cierch, 12 cent; ac yd Indiaidd, ¼ dollar; gwair, 4 dollar y dynell, a 112 yn mhob cant; cig eidion, 2½ cent y pwys; cig moch, 3 cent; a chig maharen, 2½ cent; ymenyn, 7, caws, 7; sugr, 7; tea, 90 cent; 6 pwys o goffee am ddolar. Dollar yw 4s. 2g. o'ch arian chwi; ac yna fe ddaw pob cent yn ddimmai, gan fod 100 mewn dollar. Ydwyf, &c.

J DAVIES

Oherwydd meithder y Llythyr blaenorol, gorfu arnom ei dalfyru yn fawr; ond nid ym yn meddwl ein bod wedi gadael dim allan ag sydd yn anghenrheidiol i fudolion ei wybod. - Gol.





Gweinyddu