Cliciwch i weld map mwy

Cafwyd hyd i'r rhain wrth chwilio'n ddiweddar:

Paddy's Run
rheilfordd
Ezekiel Hughes
brics
Venedocia

Plac coffa, Cae'r Sgwâr, AberaeronPoster ymfudo

Nod Project Cymru-Ohio yw digido a dehongli deunyddiau o blith casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n ymwneud â hanes y Cymry yn Ohio a'u cyflwyno i gynulleidfaoedd ar draws y byd trwy gyfrwng y wefan hon.

Mae'r wefan hon yn arddangos bron i 5,000 o ddelweddau o archifau a llawysgrifau, deunydd print, ffotograffau a mapiau yn ogystal ag adrannau sy'n cyflwyno hanes a phrofiadau'r Cymry a ymfudodd i'r dalaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Byddwn ni'n parhau i ehangu a chyfoethogi'r wefan tan ddiwedd mis Medi 2009.

Mae'r wefan unigryw hon yn adnodd gwerthfawr tu hwnt i unrhyw un sy'n ymddiddori yn hanes a diwylliant Cymry America gan gynnwys ymchwilwyr, haneswyr, olrheinwyr achau, myfyrwyr a dysgwyr gydol oes. Ar yr un pryd mae hi'n dathlu ac yn cryfhau'r cysylltiadau sy'n bodoli rhwng Cymru, Ohio ac America.

Derbyniwyd nawdd sylweddol gan Evan ac Elizabeth Davis, Oak Hill, Ohio, i gynorthwyo'r Llyfrgell Gendlaethol i gynnal Project Cymru-Ohio. Yn ddiweddar, derbyniodd y Llyfrgell nawdd pellach ganddynt i ehangu'r wefan hon. Mwy >>

Dogfen y Dydd

NLW 11614ENLW 11614E
Llythyr o Drefgordd Racoon, Sir Gallia (1855)

mwy >>
Pigion
Cofrestr a Llyfr Cofnodion Arloeswyr Cymreig Dyffryn Mahoning:Cofrestr a Llyfr Cofnodion Arloeswyr Cymreig Dyffryn Mahoning:
Lluniwyd yn ystod aduniad blynyddol Cymdeithas yr Arloeswyr Cymreig (1898-1922) mwy >>
<i>Yr American,</i> gan y Parch. B W ChidlawYr American, gan y Parch. B W Chidlaw
Llawlyfr i Gymry a oedd yn bwriadu ymfudo i Ohio a gyhoeddwyd yn 1839 mwy >>
NLW 14111D: Llythyrau Edward PeatNLW 14111D: Llythyrau Edward Peat
Llythyrau’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth am fywyd Cymreig Gomer, yng ngogledd orllewin Ohio (1868–1883) mwy >>
Gweinyddu