Dolen i brif wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru Fersiwn i'w argraffuE N G L I S H
Ychwanegu hwn at Fy AlbwmYchwanegu hwn
at Fy Albwm


Cliciwch i weld map mwy

Cafwyd hyd i'r rhain wrth chwilio'n ddiweddar:

Cymanfa
ffermio
Jefferson
Chidlaw
Canolfan Madog

Hafan > Pigion > Papurau Acrefair - stori William a Hannah Morgan

Papurau Acrefair - stori William a Hannah Morgan



Penderfynodd un teulu o Gymru godi pac a symud o Ohio i California ym 1858 ond yn fuan iawn trodd y fenter yn drasiedi.


Ychydig iawn a wyddys am gefndir William a Hannah Morgan a'u pum plentyn - William, John, Joseph, Margaret a Richard - ond o'r llythyrau sydd wedi goroesi ymddengys eu bod yn hanu'n wreiddiol o ardal Dowlais neu Rhymni a'u bod wedi ymgartrefu yn Coalport, Sir Meigs, Ohio, rywdro tua dechrau pumdegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Tra'r oedd y teulu'n byw yn Coalport, aeth William i California - "tua gwlad yr aur" - a llwyddodd i ennill digon o arian i'w alluogi i brynu darn o dir yno. Digidwyd dau lythyr a anfonwyd adref gan Hannah yn ystod y cyfnod hwn.
dogfen oLlythyr 13 Ionawr 1854 (Cymraeg; cyfieithiad Saesneg) >>

dogfen oLlythyr 14 Chwefror 1854 (Cymraeg; cyfieithiad Saesneg) >>

Erbyn 1858, roedd William a Hannah a'r plant yn barod i symud i California, felly ym mis Awst y flwyddyn honno aethant ar agerlong o Coalport i ddinas Kansas ac ymlaen wedyn ar wagen i dref Emporia ond ni chyrhaeddodd y teulu ben y daith.

"... torodd math o Grach allan o ddeutu ei gwefusau ac aeth eu gennau yn ddrwg iawn Digwyddodd hyn i agos yr oll o honynt er mae rhoi genedigaeth i Blentyn 8 mis oedd achos Marwolaeth Hannah tybir fod y Plentyn yn farw wythnos cyn ei eni"
dogfen oLlythyr y Parch. John Williams

Adroddir hanes marwolaeth annisgwyl ac arswydus William, Hannah a Joseph eu mab, mewn llythyr a anfonodd y Parch. John Williams, Pomeroy, Sir Meigs, at eu perthnasau yn ôl yng Nghymru. Mae hefyd yn sôn am y plant a adawyd ar ôl ac am yr arwerthiant a gynhaliwyd i werthu eu heiddo.

dogfen oLlythyr 24 Ionawr 1859 (Cymraeg; cyfieithiad Saesneg) >>


"yr oedd ei sefyllfa yn anobeithiol yr oedd wedi ei Salavatio[?] mor ddrwg fel yr oedd y cnawd wedi ei fwyta oddi ar Ben ei Gen i gyd ag yn gweithio yn gyflym yw Boch aswy nis gwn Pa un ai byw ai marw yw"
dogfen oLlythyr y Parch. John Williams



Mae'n rhaid bod y newyddion am y marwolaethau wedi syfrdanu'r rhai a oedd yn adnabod y teulu. Ewch i ddarllen ymateb un cydnabod:

dogfen oLlythyr 5 Ionawr 1859 (Cymraeg; cyfieithiad Saesneg) >>



Anfonodd y Parch. John Williams ddau lythyr arall at y teulu yng Nghymru yn trafod dyfodol y plant amddifad a phwy fyddai'n medru gofalu amdanynt naill ai yn America neu yng Nghymru. Awgrymodd y byddai'n syniad i rai o'u perthnasau ddod drosodd i Kansas atynt ond ymddengys na chafodd yr awgrym ei ystyried o gwbl. Deallwn o'r llythyr a anfonwyd at eu hewythr chwe blynedd yn ddiweddarach fod y plant wedi gorfod aros yn Kansas heb dderbyn unrhyw gysur na chymorth gan eu teulu yng Nghymru.

dogfen oLlythyr 9 Tachwedd 1859 (Cymraeg; cyfieithiad Saesneg) >>

dogfen oLlythyr 8 Rhagfyr 1865 (Cymraeg; cyfieithiad Saesneg) >>



Gweinyddu