Dolen i brif wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru Fersiwn i'w argraffuE N G L I S H
Ychwanegu hwn at Fy AlbwmYchwanegu hwn
at Fy Albwm


Cliciwch i weld map mwy

Cafwyd hyd i'r rhain wrth chwilio'n ddiweddar:

Venedocia
Ezekiel Hughes
Moriah
Cincinnati
Llanbryn-mair

Hafan > Pigion > NLW 20995 - llythyrau Jack Edwards

NLW 20995: llythyrau Jack Edwards



Jack Edwards


Jack Edwards (1853-1942)
Llyfrwerthwr a chantor oedd Jack Edwards (1853-1942), ac un o bum plentyn Edward ac Elizabeth Edwards, Aberystwyth. Llyfrwerthwr oedd ei dad, Edward ('Pencerdd Ceredigion', 1816-1897) ac roedd hefyd yn adnabyddus fel cerddor a sefydlodd gôr yn Aberystwyth. Roedd gan Jack ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth hefyd; roedd yn mwynhau canu a chwaraeai nifer o offerynnau gan gynnwys y cornet a chyfansoddodd sawl emyn-dôn.

Bu'n gweithio yn Swyddfa Bost Aberystwyth tan 1880, pan aeth i Cicninnati, Ohio. Aeth i fyw at ei frawd Ed, llyfrwerthwr a ymfudodd i America tuag ugain mlynedd ynghynt, a bu'n gweithio i gwmni peiriannau gwnïo Singer, i gyfanwerthwr cyffuriau ac fel athro cerddoriaeth. Treuliodd lawer o'i amser yn canu, fel unawdydd ac mewn amryw gorau.

Bu Jack yn gohebu â'i deulu gydol ei oes. Yn ystod ei gyfnod yn America, gohebai'n bennaf â'i chwiorydd, gan adrodd ei hanesion diweddaraf a hanes y gymuned Gymreig yn Cincinnati. Ysgrifennai'n gyson, ond yn llai aml, at ei dad Edward (bu farw ei fam pan oedd Jack yn 12 oed). Ysgrifennai ato yn Gymraeg bob amser a rhannai wybodaeth am ei waith a'i weithgareddau cerddorol. Arferai ohebu â nifer o gerddorion yng Nghymru hefyd.

Nid oedd hi'n fwriad ganddo i ymgartrefu yn America ac yn 1887, yn dilyn marwolaeth ei chwaer Mary, dychwelodd i gynorthwyo'i dad yn ei siop lyfrau ar Y Stryd Fawr yn Aberystwyth. Bu farw ei dad yn 1897 gan adael Jack i redeg y busnes.

Roedd gan Jack ddiddordeb mawr mewn materion lleol ac roedd yn gefnogwr brwd o'r syniad o ddatblygu Aberystwyth fel prif dref lan y môr arfordir Cymru. Datblygodd ddiddordeb mewn Esperanto hefyd a daeth yn rhugl ynddi ar ôl mynychu cynadleddau rhyngwladol.

Bu farw yn Aberystwyth yn 1942 yn 89 mlwydd oed.

Y gymuned Gymreig yn Cincinnati


Yn ystod ei gyfnod yn America, daeth Jack yn boblogaidd iawn a gwnaeth lawer o ffrindiau. Roedd hi ond yn naturiol bod y Cymry eisiau ymgartrefu gyda'i gilydd mewn gwlad estron ac mae'n amlwg o drafodaethau Jack am y Cymry y daeth i'w hadnabod, ynghyd â'i weithgareddau gyda cherddorion Cymreig mewn capeli Cymreig cyfagos, bod yr ardal yn gartref i nifer o ymfudwyr o Gymru. Arhosai nifer gyda pherthnasau a oedd eisoes wedi ymgartrefu yng ngwlad yr addewid, ac arhosodd Jack gyda theulu ei frawd am y rhan fwyaf o'r amser a dreuliodd yn America. Ar sawl achlysur arferai siarad â'i ffrindiau newydd am ei gartref a'i deulu, a nododd "they never got tired of listening with interest to all I have to say about my dear old home + family".

"... The welsh people here having been away two New Years Days at an Eisteddfod have got out of the way of "Calling" considerably but having neglected to visit them somewhat of late I availed myself of the opportunity to make amends so I called on about 40 yesterday & had a splendid time."
NLW 20995: Jack Edwards
Roedd y mwyafrif o'r ymfudwyr yn gweld eisiau eu teuluoedd a'u ffrindiau'n ôl yng Nghymru yn fawr ac roedd hi'n bwysig cysylltu ag eraill a rannai'r un teimladau a phrofiadau. Yn naturiol ddigon, mae llythyrau Jack yn cynnwys y newyddion diweddaraf am y Cymry yn Cincinnati ac arferai anfon newyddion yn rheolaidd at ei deulu am y rhai a oedd wedi symud o Aberystwyth i fyw yno. Roedd hi hefyd yn bwysig derbyn newyddion gan bobl oedd wedi ymweld â'r 'henwlad' ac a oedd wedi dychwelyd gyda gwybodaeth am deulu a ffrindiau'n ôl yng Nghymru.

Crefydd, Cerddoriaeth a diwylliant Cymreig


Roedd cerddoriaeth, yn enwedig cerddoriaeth Gymreig yn gyswllt pwysig â'r famwlad. I Jack Edwards, a oedd yn hannu o deulu cerddorol ac a oedd yn gerddor medrus ei hun, roedd hyn yn elfen ganolog yn ei fywyd. Mae canran uchel o'i lythyrau'n cynnwys cyfeiriad at gantorion, cyngherddau neu ddigwyddiadau cerddorol eraill yn yr eglwysi lleol.

Roedd crefydd yn gysur i Jack a'i gyd-ymfudwyr yn ystod cyfnodau unig a gofidus. Roedd ffydd hefyd yn atgyfnerthu'r cyswllt â chartref ac mae sawl rhan o ohebiaeth Jack yn ymwneud â chrefydd ac ysbrydolrwydd y teulu. Roedd y syniad y byddai pawb yn cyfarfod yn y nefoedd yn uno'r teulu pan oedd pawb ar wasgar.

Hiraeth


Roedd derbyn llythyrau gan deulu a ffrindiau yng Nghymru yn gysur mawr i Jack a'i berthnasau yn America. Derbyniai wybodaeth, sicrwydd, cefnogaeth a chysur drwy gyfrwng yr ohebiaeth. Ateb Jack's answer i'r hiraeth a deimlai oedd gweithio'n galed i anghofio am ei deimladau o bosib, fel y mae'n datgelu i'w dad:
"Oni bai fy mod yn ymgymeryiad a llond fy nwylaw o waith y perygl ydyn y buaswr yn teimlo yn aml fy uniged ac ychydig yn hiraethlon."(llythyr dyddiedig 6 Mehefin 1887)
Roedd yn derbyn cysur hefyd o'r papurau newydd a'r llyfrau a anfonid ato o Gymru ac mae sawl llythyr yn cynnwys sylwadau ar erthyglau ynddynt.

Fel y gwelir o'i lythyrau, ni fu'r Taleithiau Unedig byth yn gartref iawn iddo ond efallai bod hyn oherwydd y gwyddai y byddai'n dychwelyd i fyw i Aberystwyth maes o law. Er hynny, mewn llythyr dyddiedig 28 Chwefror 1932, 45 o flynyddoedd ar ôl dychwelyd i Gymru, mae Jack yn datgelu i'w nith, Mali, iddo gael hyd i flwch yn cynnwys llythyrau a anfonwyd yn ystod ei gyfnod yn Ohio, a dywed "I hope to be able to look at a few now and again when I am alone, so that I may continue the dreams that they give rise to. It is awfully sweet, but oh! How hiraethus!" Bu'r llythyrau hyn yn gysur iddo yn ystod ei gyfnod yn America ond fe wnaethon nhw hefyd gorddi emosiynau ynddo unwaith yn rhagor flynyddoedd yn ddiweddarach.


dogfen oPorwch drwy dros 130 o lythyrau Jack Edwards (Saesneg a Chymraeg) >>




Gweinyddu