|
Cafwyd hyd i'r rhain wrth chwilio'n ddiweddar: NLW 14111D: Llythyrau Edward Peat![]() Cawn ddarlun cyflawn o'u bywyd bob dydd, ffermio, y tywydd, prisiau stoc, cnydau a nwyddau a chawn hanes y plant yn llwyddo i gael gwaith ac ennill bywoliaeth dda. Sonnir yn gyson am fenthyg arian hefyd a'r pwysau cyson a oedd ar y teulu i geisio talu'r ddyled yn ôl. Roedd nifer o ardal enedigol Edward Peat wedi ymgartrefu yn Gomer felly roedd hi'n naturiol iddo anfon straeon am bobl "leol" adref at ei frawd ynghyd â hanes y Capel a'r traddodiadau Cymreig a gâi eu cynnal yno megis yr eisteddfod a'r côr. At hyn, ceir blas ar yr hiraeth a deimlai Edward o bryd i'w gilydd a hanes ei farwolaeth ym mis Rhagfyr 1878. Gadael CymruGadawodd Edward Peat a'i deulu eu cartref ym Mraichodnant, Llanbryn-mair, ac ymfudo i America ym 1868. Nid oedden nhw'n gwneud rhywbeth anghyffredin iawn wrth gwrs. Roedden nhw'n dilyn ôl troed llawer o drigolion yr ardal a oedd eisoes wedi gadael bro eu mebyd i geisio bywyd gwell yn y Taleithiau Unedig."... mae pob argoeul yn awr y bydd America yn un o'r gwledudd mwaf Dedwudd dan haul y Nen, ymhob modd." Ymfudodd Morris Peat, brawd Edward, rai blynyddoedd yn gynharach a llwyddodd i gael ei draed tano yn fuan iawn yn y wlad newydd. Diau fod llwyddiant Morris a'i ddisgrifiadau o fywyd yn America wedi sbarduno Edward a'i deulu i'w ddilyn.Y fordaithLlythyr a anfonwyd o Lerpwl, ddiwrnod cyn mynd i'r môr, ywCyfaddefodd Edward Argraffiadau cyntaf o'r Unol Daleithiau"Ond pwy bynnag a ddêl yma yn yr oed y deythym i yma y mae yn sicr o Edifarhau yn galed. Nid am ddyfod yma ond am na biase yn dyfod yn gunt." Er gwaethaf y fordaith a'i hiraeth, roedd argraffiadau cyntaf Edward o America yn rhai ffafriol iawn. Yn wir, roedd popeth yn well na'r disgwyl:(Mynegir yr un teimlad yn "Wel, Anwyl Frodyr, a Hen fam, peth go fawr ydiw dyfod ir America, ond a'r ôl Dyfod y mae pob peth yn well nag y myddyliais, y bobl yn edrych yn well ac yn Barchus iawn oi gilydd, Dillad da am Denynt - tai Da yn byw ynddynt." Bu'r teulu'n byw yn Ebensburg i ddechrau ac fe'u croesawyd yn wresog gan eu cymdogion. Daeth Edward i sylweddoli'n fuan y dylai fod wedi ymfudo ugain mlynedd ynghynt oherwydd bod amodau byw dipyn yn well yn America a sylweddolodd hefyd y gallai yn hawdd fod wedi dod â'i fam oedrannus gydag ef i America. Symud i GomerYmddengys nad oedd hi'n fwriad gan y teulu o'r dechrau i ymgartrefu yn Ebensburg. Dim ond lle i aros dros dro ydoedd, tan iddynt gael hyd i rywle mwy addas yn y dalaith.Ychydig fisoedd ar ôl cyrraedd, roedd Edward yn awyddus i gael gwybod mwy am diroedd Sir Allen. Nododd ei fwriadau ef a'i deulu mewn Erbyn diwedd 1868 neu ddechrau 1869, roedd y teulu wedi symud ac ymgartrefu yn ardal Gomer. Yn y llythyrau cyntaf a anfonodd o'u cartref newydd, sonnir am y Roedd ganddynt ddeugain cyfer o dir gwastad a ffrwythlon i'w ffermio. Yn y cae chwe chyfer nesaf at y tŷ, plannwyd gwenith ar bum cyfer a cheirch a phorfa yn y gweddill. Aeth Edward i Lima i brynu deg ar hugain o goed afalau i'w plannu o flaen y tŷ a chafodd goed cyrens, gwsberis, grawnwin a hopys ar gyfer yr ardd fechan. Bu'n rhaid clirio rhannau o'r tir ar ôl cyrraedd a gosod ffens o gwmpas dau gae arall. "Y mae yn haws byw yma o lawer nag yna ...""... a pheth syd well a'r les corph dyn na hynu: - digon o gig tew - cig yidion a moch a'r y bwrdd bob amser - nid lladd "Hychod magu" y mae teylyoedd y wlad hon, na, mynnant bob peth gorau iw teylyoedd." Heb os, roedd bywyd yn haws i'r teulu yn Gomer nag ydoedd yng Nghymru. Ni fu Edward a'i deulu'n brin o ddim ar ôl symud i America. Roedd digonedd o bopeth ar gael yno. Un arfer dieithr a synnai Edward dro ar ôl tro oedd yr arfer o fwyta cig - a chymaint ohono - gyda phob pryd bwyd. Flwyddyn yn ddiweddarach, ar ôl clywed bod Dafydd a'i deulu yn gorfod byw yn gynnil, dyma Edward yn nodi unwaith eto ei fod yntau wedi cael amser caled yn y gorffennol ond ei fod yn well ei fyd ar ôl symud i America: "Ond mi welais ine y faeth beth yna ond nid yma, - y maent yma yn 'bound o fwyd, nid y Dillad iw Crogi'. Teylyoedd llai na Theylu Glanllyn; yn lladd 4 neu 5 o foch mawr a'g Eidion tew, bob blwyddyn - cig efo phob pryd, - a menyn, a'g odid fawr na bydd caws hefyd ar y bwrdd!" Mewn Daeth Edward ar draws llu o bethau a oedd yn ei ryfeddu yn y wlad newydd. Soniwyd eisoes ei fod wedi synnu at yr amrywiaeth o goed a dyfai yn y dalaith ac at y felin lifio a'r peiriannau a ddefnyddid ynddi. Synnodd hefyd at grandrwydd tref Lima. Mewn un llythyr, ceir disgrifiad manwl o'r siopau a chanol y dref. Gallwn ddychmygu Edward ei hun yn rhyfeddu at yr olygfa ond tybed sut ymateb gafodd y llythyr ar aelwyd Dafydd Peat, yn Llanbryn-mair? Ceisiodd Edward ei orau i gofnodi pob manylu er mwyn gwneud ei ddarlun mor gyflawn ac mor fyw â phosib i'w deulu: "O flaen y siopydd, y mae sidwoke tya 4 llath o lêd, wedi ei fflagio, a fflag's gleision mawr a'r yn uwch o droedfedd na'r street, - a chydig ochr y sidewoke, o gwmpas y square oll, y mae pyst wedi ei gosod mewn tua 6 llath iw gilydd, a llafnau o breniau o'r naill bost ir llall, a Dolenau haiarn bob ychydig, er ffasno y cyffylau." Benthyg arian ac "awyddu am ormod"Yn fuan ar ôl cyrraedd Gomer, roedd Edward yn synnu'n fawr pa mor hawdd oedd hi i fenthyg arian. Ymddengys mai dyna a wnâi'r Cymry pan oedden nhw'n symud i'r ardal - benthyg arian i godi tai a phrynu tir."Wel, nid oes achos achwyn, - ond Dyled iw y Baich" Bu'n rhaid i Edward yntau fenthyg arian. Benthycodd arian gan ffrindiau a chan ei blant a chyfeiria'n gyson ei fod o dan faich trwm o ddyled. Mewn ambell i lythyr mae'n manylu faint sydd arno i wahanol unigolion. Trowch at ddau lythyr a anfonodd at Dafydd am ragor o wybodaeth: Yr un oedd sefyllfa ei frawd, Morris, yn Iowa. Ar ôl cael benthyciadau prynodd lawer o dir a bu'n rhaid iddo dalu llog rhwng 10 a 15 y cant. Mae'n sôn am ei ddyledion sawl gwaith, er enghraifft mewn Er gwaethaf y baich hwn, nid oedd Edward yn poeni'n ormodol am ei sefyllfa. Roedd yn ddigon hyderus y gallai ddygymod â'r taliadau yn America, ond dywed fwy nag unwaith y byddai'n teimlo'n wahanol iawn pe bai mewn cymaint o ddyled yng Nghymru - Cafodd Edward ei demtio i brynu tir yn rhad ychydig flynyddoedd ar ôl i'r teulu ymgartrefu yn Gomer. Cododd chwant arno i fynd tua'r gorllewin, i ardal Kansas, gan fod nifer yn symud yno ar y pryd a chan fod modd prynu fferm yr un i'r plant yno gyda'r arian a geid o werthu un fferm yn ardal Gomer. Ni wyddys paham na fentrodd y teulu i dalaith arall ond gellir tybio, o'r hyn a ddywedodd Edward mewn "... y mae y wlad hon yn dangos i ddynion, fod ynddi faeth fantais i 'ymgyfoethogi' nes ydiw llawer un yn boddi wrth ei gynnydd, - y mae pregethwyr yn gystal a neb a'm grafangio gymaint a allant, - ag mae y wlad gymaint fel nad oes a'r neb wenwyn wrth ei gilyd, - mae yma rai yn fy ymyl i J. Watkin, a Thos Watkin, dau o Lanerfyl - maent yma e'r ys blynyddau lawer, hwy ddaeth gyntaf i'r ardal, a chawsant y tir y pryd hwnnw am ddolar a chwarter y cyfer (mine yn rhodi 50 Dolar y Cyfer) a'g er nad oedd ganddynt ond ychydig o arian, eto gan fod y pris mor fach; prynasant beth wmbredd o Dir, a'g i maent yn werth llawer, a'g yn byw yn nobl, - ni elit feddwl wrth edrych arnynt, ei bod yn werth cent, - nis gellir prynu tir yma yn awr, a hwnnw i gid yn goed, tan 40 - a'g yn aml 50 Dolar y cyfer." FfermioUn o nodweddion mwyaf diddorol y casgliad hwn o lythyrau yw'r disgrifiadau a geir o fywyd bob dydd ar y fferm a'r manylion am y stoc a'r cnydau a phrisiau nwyddau. Dyma rai dolenni i'ch tywys chi at y disgrifiadau hynny:O bryd i'w gilydd mae Edward yn crybwyll y tywydd yn ei lythyrau. Mae'n disgrifio Y gymuned Gymreig yn GomerYn naturiol ddigon, roedd Edward yn cynnwys y newyddion diweddaraf am Gymry Gomer yn ei lythyron adref. Adroddai hanes cyn-drigolion Llanbryn-mair a'r pentrefi cyfagos yn gyson. Dyma rai enghreifftiau:Mewn ambell i lythyr sonnir am "... nid oes fawr yn cerdded ir capel os bydd ganddynt geffyl, neu ddau, - Pawb yn ei gwagen, ag amriw yn ei spring wagen. - Capel tipin mwy nag ysgoldy Bont, heb un galery ..." Wrth gwrs y Capel oedd canolbwynt y gymuned. Sonnir am y "Y mae y Cymry yn mynd i gael Eisteddfod yn Lima dydd Calan, disgwylir amser da, gan fod 5 o gorau yn myned i gystadlu am y prif ddarn. Yna beth sydd iw glywed yma yn awr. Canu a paratoi am frwdr ..." Yn ogystal ag ymgynnull i addoli, deuai'r Cymry at ei gilydd i gystadlu mewn Eisteddfodau a chanu mewn côr hefyd. Adeg y HiraethRoedd y pellter rhwng Edward a'i deulu yn ôl yng Nghymru yn achosi poen meddwl iddo yn lled aml, yn enwedig ar adegau arbennig o'r flwyddyn megis y Nadolig neu ar adegau pan oedd teulu cyfan yn ceisio dygymod â cholled. Teimlai'n arbennig o rwystredig ar ôl clywed trwy lythyr am farwolaeth "Poli fach". Nid oedd arno lawer o hiraeth am yr hen ardal gan fod ansawdd bywyd yn y wlad newydd gymaint yn well i'r teulu cyfan. Cyfaddefodd er hynny ei fod yn gweld eisiau ei deulu'n gyson: Er na fedrent gyfarfod wyneb yn wyneb, fe'i cysurwyd gan y ffaith fod modd iddynt Marwolaeth Edward Peat"Yr ydym ni fel teulu yn methu gwybod yn iawn, pa beth iw wneud bellach., ni feddyliais erioed or blaen, y buasau colli fy nhad yn fath golled, er nad oedd yn gallu gwneud ryw lawer iawn, eto efe ydoedd ein llyw ân cynghorwr ac maer tŷ yn edrych yn wag ac oer hebddo." Dirywiodd iechyd Edward yn raddol yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd. Bu farw ym mis Rhagfyr 1878 ac fe'i claddwyd ym mynwent Tawelfan, yn ymyl dau o'i gyfeillion - William a Mary Jones, Tawelfan. Bu colli'r penteulu yn ergyd drom i'w wraig a'i blant a gellir dychmygu bod ei berthnasau a'i ffrindiau ym mro ei febyd wedi teimlo'r un golled yn union pan gyrhaeddodd y newyddion am ei farwolaeth. Y mab hynaf, Edward, fu'n gyfrifol am anfon y llythyr trist i Lanbryn-mair.Llythyrau eraillMae'r llawysgrif hefyd yn cynnwys: |