Dolen i brif wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru Fersiwn i'w argraffuE N G L I S H
Ychwanegu hwn at Fy AlbwmYchwanegu hwn
at Fy Albwm


Cliciwch i weld map mwy

Cafwyd hyd i'r rhain wrth chwilio'n ddiweddar:

Cymanfa
Cincinnati
Paddy's Run
Welsh Hills
mordaith

Hafan > Pigion > Yr American

Yr American


B.W. Chidlaw, Yr American : yr hwn sydd yn cynnwys nodau ar daith o Ddyffryn Ohio i Gymru, golwg ar dalaeth Ohio, hanes sefydliadau Cymreig yn America, cyfarwyddiadau i ymofynwyr cyn y daith, ar y daith, ac yn y wlad (Llanfair, 1839)



Yr American
Cyfeirlyfr taith cynhwysfawr ar dalaith Ohio a gyhoeddwyd ar adeg pan oedd cannoedd o Gymry'n ystyried ymfudo i'r Unol Daleithiau.

Mae'n cynnwys disgrifiad o dirwedd y dalaith, yr ysgolion a'r colegau, y llywodraeth a'r enwadau crefyddol ynghyd â manylion am y cymunedau Cymreig niferus a oedd yn datblygu yno ar y pryd. Mae Chidlaw hefyd yn cynnig cynghorion cwbl ymarferol a hanfodol i unrhyw un a oedd yn bwriadu hwylio ar draws yr Iwerydd ac ymgartrefu yn Ohio.

Pennod 1


Ym Mhennod 1 - Mordaith, cawn ein tywys ar daith gyda'r Parch. B.W. Chidlaw o Paddy's Run, yng ngorllewin Ohio, i Cincinnati ac ymlaen i Columbus, Radnor, Sandusky, Rochester, Syracuse ac Utica, cyn iddo gyrraedd pen ei daith yn Efrog Newydd.



Arloeswyr cynnar, Cincinnati
(Trwy ganiatâd The Ohio Historical Society)
Un o'r nodweddion sy'n cael sylw cyson gan Chidlaw drwy gydol y gyfrol yw datblygiad talaith Ohio a'r newidiadau cyffrous a welwyd yno dros gyfnod o hanner can mlynedd. Daw hyn i'r amlwg gyntaf wrth iddo ddisgrifio dinas Cincinnati. Ym 1808, meddai, 5,000 oedd ei phoblogaeth ond erbyn diwedd tridegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg mae'n honni bod 50,000 o drigolion yn byw ynddi a dywed:
"Haner can mlynedd yn ôl, yr oedd y lle yma yn anialwch hollol, trigfanau creaduriaid, ac Indiaid gwylltion; mawr y cyfnewidiad a wnaeth amser mor fyr."
Bu Chidlaw ei hun yn dyst i'r newid hwn wrth gwrs, gan iddo gael ei fagu yn Ohio.
Disgrifiad o Cincinnati a Columbus >>

Disgrifia'r golygfeydd, y trefi a'r dinasoedd, y bobl a rhai o'r rhyfeddodau a welodd ar y daith i Efrog Newydd megis rhaeadr Niagra a'r ddau lwyth o Indiaid y daeth ar eu traws.

Ar ôl treulio rhai dyddiad yn Efrog Newydd, hwyliodd Chidlaw i Lerpwl ar fwrdd y Columbus. Er iddo gael mordaith ddidrafferth ar y cyfan, noda ei fod wedi dioddef rhywfaint o salwch y môr pan oedd ar fwrdd y llong. Noda hefyd iddynt weld llongddrylliad a'i fod wedi cymryd rhan mewn gwasanaeth i gladdu plentyn a fu farw ar y môr.
Ewch i dudalen 10 i ddarllen disgrifiad o'r amodau ar y llong >>

Pennod 2


Nodweddion cyffredinol Ohio sy'n cael sylw ar ddechrau Pennod 2 - ei lleoliad a'i maint, ei phoblogaeth, y diwydiant glo a haearn a'r ffatrïoedd gwlân a chotwm, y ffyrdd a'r camlesi, y tywydd ac ansawdd y tir yn y dyffrynnoedd ac ar y bryniau.

Cawn ddarlun digon cyflawn gan Chidlaw ond gofalodd nad oedd y darlun hwnnw'n un rhy ddelfrydol. Fe'n rhybuddir am y clefydau a'r afiechydon cyffredin megis y cryd, busltedd, intermitting fever, llid yr ysgyfaint, cryd cymalau a'r ddarfodedigaeth a chynigir canllawiau i'r darllenydd ynglŷn â'r ffordd orau i ofalu am ei iechyd.

O gofio mai gorthrwm, tlodi ac ansefydlogrwydd oedd rhai o'r ffactorau a ysgogodd y Cymry i ymfudo i America yn ystod y cyfnod hwn, gellir tybio y byddai'r darllenydd yn awyddus iawn i ddarllen yr hyn sydd gan Chidlaw i'w ddweud am drethi'r dalaith. Byddai'r wybodaeth ar waelod tudalen 17 a thudalen 18 yn siŵr o leddfu gofidiau'r sawl a oedd yn ystyried ymfudo i Ohio i geisio bywyd gwell.

Rhagor o wybodaeth am y trethi y disgwylid i drigolion Ohio eu talu >>

Ceir tair adran ar ddiwedd Pennod 2, sef "Llywodraeth", "Crefydd" ac adran ar sefydliadau addysg y dalaith.

Pennod 3


Ym Mhennod 3, disgrifir cymunedau a sefydliadau Cymreig y dalaith:
(1) Paddy's Run (6) Owl Creek
(2) Radnor (7) Palmyra
(3) Newark a'r Welsh Hills (8) Gallia a Jackson
(4) Columbus (9) Putnam a Vanwert
(5) Cincinnati

Pwysleisir dro ar ôl tro yn y bennod hon pa mor sylfaenol oedd amodau byw'r arloeswyr Cymreig cyntaf a pha mor galed y bu'n rhaid iddynt weithio i glirio a thrin y tir coediog. Er nad oedd ganddynt lawer o adnoddau, llwyddodd y Cymry i gyflawni cryn dipyn mewn cyfnod cymharol fyr gan drawsnewid "y goedwig afluniaidd yn gartref hyfryd iddynt hwy a'u plant".

Ymdrinnir â Paddy's Run, yng ngorllewin Ohio, yn gyntaf. Dyma gymuned Gymreig hynaf Ohio a'r gymuned y magwyd Chidlaw ynddi. Amaethwyr oedd y mwyafrif a drigai yno yr adeg hon ac yn ôl Chidlaw roedd 200 - 250 ohonynt yn Gymry. Disgrifir y defnydd a wneid o dir ffrwythlon yr ardal a nodir beth oedd prisiau prynu a rhentu tir yn ogystal â chyflogau gweision a morynion.

Ceir manylion am yr eglwys a sefydlwyd gan yr Annibynwyr yn Paddy's Run ar dudalen 22 >>

Yn ôl Chidlaw, sefydlwyd y gymuned yn Radnor yn sir Delaware ym 1804. Cymry o Sir Drefaldwyn a Sir Frycheiniog a ymgartrefodd yno'n bennaf a thybia fod y gymuned arbennig hon yn fwy na'r un arall yn Ohio. Yr hyn a'u denodd mae'n siŵr oedd tir ffrwythlon yr ardal a'r ffaith fod ysgolion a marchnadoedd mor gyfleus. Roedd gan y gwahanol enwadau crefyddol gapeli ac eglwysi yn Radnor a chawn wybod bod diwygiad mawr wedi digwydd yno gan yr Annibynwyr a bod y Bedyddwyr a'r Wesleaid Cymreig wedi uno â'r Saeson.

Cliciwch yma i gael gweld faint y byddai disgwyl i rywun ei dalu am dyddyn yn ardal Radnor >>


Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Newark, yn Sir Licking, yn dref "ar gynydd mawr" lle trigai llawer o grefftwyr o Gymru. Bodolai cymuned Gymreig arall i'r gogledd orllewin, sef y Welsh Hills a sefydlwyd gyntaf gan Theophilus Rees ym 1803. Dechreuwyd achos crefyddol yno gan y Bedyddwyr ac unodd yr Annibynwyr a'r Trefnyddion Calfinaidd i godi achos crefyddol ac adeiladu capel.

Y ddwy ddinas - Columbus, a Cincinnati - sy'n cael sylw nesaf. Dyma gyrchfan y bobl ifanc o Gymru. Ceir manylion am gyflogau gweision, morynion a chrefftwyr y dinasoedd yn ogystal â'r cyfleoedd gwaith a oedd ar gael yn Cincinnati wrth iddi dyfu ac ehangu. Yr anhawster pennaf y gallai Cymro neu Gymraes ei wynebu oedd ceisio cael hyd i waith a chartref yn syth ar ôl cyrraedd. Arhosai rhai yn y dinasoedd i ddilyn eu gyrfa tra'r oedd eraill yn cynilo er mwyn prynu tir a symud i'r wlad i fyw.

Ewch i dudalen 26 os hoffech chi ddarllen disgrifiad byr o'r gymuned Gyrmaeg yn Owl Creek, tua 36 milltir o Columbus >>

Ymddengys nad oedd yr arloeswyr cynharaf o Gymru wedi mentro i blwyf Palmyra, yn sir Portage. Yn hytrach, prynu tir ail law gwerth 1 i 3 punt yr erw a wnaethant ar ôl i Gymro o'r enw John Davies fynd yno ym 1829. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae Chidlaw'n tybio mai 3 i 8 bunt fyddai gwerth yr un tir. Er nad oedd ei ansawdd yn arbennig iawn, roedd ei leoliad - ger camlas Ohio a Llyn Erie - yn ei wneud yn dir buddiol. Nodir hefyd bod yno addoldai ac eglwysi'r enwadau Cymreig.

Ar ôl canmol tirwedd nifer o ardaloedd gweledig Ohio, mae Chidlaw yn troi i feirniadu ansawdd y tir yn ne ddwyrain y dalaith, yn siroedd Gallia a Jackson. Pan gyhoeddwyd Yr American ym 1839, roedd cannoedd ar gannoedd o ymfudwyr o Sir Aberteifi wedi ymgartrefu yn yr ardal hon ond, yn ôl Chidlaw, roedd y tir "yn hynod o doredig a chleiog" a buasai'n well pe baent wedi mentro i ddyffryn Mississippi.
Sylwadau Chidlaw ar siroedd Gallia a Jackson >>

Mae'n debyg nad Chidlaw oedd yr unig un i feirniadu tiroedd yr ardal. Nododd Anne Kelly Knowles yn Calvinists Incorporated (t. 157), fod John Jones Ty'n Rhos wedi clywed mai tir sâl oedd yn Jackson pan oedd ar ei ffordd yno.
Lythyr gan John Jones Ty'n Rhos a gyhoeddwyd yn Y Cenhadwr ym 1845 >>

Cymuned gymharol newydd oedd yn Putnam a Vanwert adeg cyhoeddi Yr American. Ym 1834, symudodd nifer o deuluoedd Cymreig Paddy's Run i'r ardal ar ôl i'r tir gael ei werthu i'r llywodraeth gan yr Indiaid.
Ceir gwybodaeth am brisiau a maint y tyddynnod gwreiddiol hyn ar dudalen 27 >>

Amcangyfrifir bod tua 40 i 50 o deuluoedd Cymreig yn Putnam a Vanwert ym 1839 ac, oherwydd bod y tir yn isel a'r camlesi mor gyfleus, mae Chidlaw yn rhagweld y byddai mwy o Gymry'n heidio i'r gymuned hon nag i unrhyw gymuned arall yn y dalaith. Nid oedd yno eglwysi nac addoldai ond nodir bod gan yr Annibynwyr bregethwr yn yr ardal a'u bod yn paratoi sefydlu achos.

Ceir adrannau eraill ar: Utica, Deerfield, Ffloyd, Steuben, Efrog Newydd, Pittsburg, Ebensburg a Pottsville.

Pennod 4


Pennod o gynghorion a chyfarwyddiadau i'r rhai a oedd yn "difrifol ystyried" ymfudo i'r Unol Daleithiau yw Pennod 4.

Mae Chidlaw ei hun yn cydnabod bod ymfudo i wlad estron a phellennig fel America, gan adael teulu a ffrindiau ar ôl, yn gam enfawr ac mae'n annog unrhyw un a oedd yn ystyried gwneud hynny i bwyso a mesur eu sefyllfa'n ofalus.

Disgrifir nodweddion personol y sawl a oedd yn debygol o lwyddo ar ôl mentro ar draws yr Iwerydd a cheir disgrifiad hefyd o'r cymeriadau a fyddai'n siwr o ddioddef siom, tor-calon a methiant. Tybid yn gyffredinol y deuai llwyddiant i ran y sawl a oedd yn barod i wynebu'r melys a'r chwerw - y sawl a oedd yn barod i weithio'n ddygn a dodded peth caledi cyn medru byw bywyd dedwydd. Byddai "pobl ieuainc, sobr, diwyd a ffyddlawn" ar eu hennill o fynd i America ynghyd â chrefftwyr gweithgar a medrus. Roedd yno le gwell i deuluoedd ifanc hefyd yn ôl Chidlaw:
"Rhieni, y rhai sydd yn magu teuluoedd, a chanddynt eiddo yn eu meddiant, ac yn methu, bron, a thalu eu ffordd, er gwneyd pob ymdrech tuag at hynny, byddai yn llawer iawn gwell i'r cyfryw fyned i America, lle y caent, yn ddiamau, cyn hir, weled cyfnewidiad mawr ar eu byd, a hynny er gwell."


Geiriau digon llym a chadarn sydd ganddo i'r sawl a ddisgwyliai "hawddfyd a chyfoeth, gyda diogi a diota" wrth ymfudo i America. Mae'n rhybuddio yn erbyn segurdod a diota droeon yn y bennod a dywed yn blaen na châi "Gentleman Farmer" fyw yn yr Unol Daleithiau gan fod pawb yn gweithio yno i sicrhau llwyddiant. Rhoddir cic fach slei i arferion y Cymry a oedd eisoes wedi ymfudo hefyd.
Cliciwch yma i ddarllen y gŵyn yn eu herbyn >>

Er gwaethaf ei rybuddion, anogaeth a geir gan Chidlaw yn y bennod hon yn bennaf wrth iddo geisio'i orau i ddarbwyllo'r darllenydd i geisio bywyd gwell yn yr Unol Daleithiau.

Mae ail hanner y bennod yn ymdrin â pharatoi ar gyfer "Y Daith". Nodir pa eiddo personol y dylid ei gludo'r holl ffordd i America a cheir cyfarwyddiadau ynglŷn â threfnu llety a llong ar ôl cyrraedd Lerpwl. Roedd Chidlaw yn ddigon craff i sylweddoli pa mor ddiniwed ac amhrofiadol y gallai rhai Cymry fod pan nad oedden nhw yn eu cynefin felly gofalodd eu rhybuddio yn erbyn "rhith-gyfeillion" a allai eu twyllo a'u camarwain mor hawdd. Un o'r problemau a wynebai teithwyr yn Lerpwl oedd gorfod aros am gyfnod hir yn y ddinas ar ôl trefnu llong i'w cludo.

Ewch i ganol tudalen 42 i weld sut y gellid osgoi hyn ac i weld beth fyddai costau teithio yn y cabin a'r "steerage", sef y dosbarth rhataf >>

Mae Chidlaw yn mynd yn ei flaen i gynnig cynghorion hynod ddiddorol ynglŷn â pha fwydydd i'w paratoi cyn mynd, sut i osgoi iselder, sut i ymddwyn yn gyffredinol ar y llong a beth i'w ddisgwyl yn Efrog Newydd.

Nid yw Chidlaw yn gadael y Cymry i ddewis eu llwybrau eu hunain yn y wlad estron ychwaith. Mae'n eu harwain ymlaen i Ohio gan ddisgrifio:
taith o Efrog Newydd i Utica ac Ohio >>
taith i Cincinnati trwy Pennsylvania >>
sut fath o dir y dylid ei brynu a sut i'w drin >>

Ar ddiwedd y gyfrol ceir disgrifiad o ddyffryn Mississippi, y tywydd y gellir ei ddisgwyl yno a cheir hefyd englyn gan Mervinian.


Cyfieithwyd 2il argraffiad Yr American (1840) i'r Saesneg gan Morris Owen Evans yn Quarterly Publication of the Historical and Philosophical Society of Ohio; Cyfrol VI, Rhif 1).


Cliciwch yma i fynd i dudalen ar B. W. Chidlaw >>


Gweinyddu