Dolen i brif wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru Fersiwn i'w argraffuE N G L I S H
Ychwanegu hwn at Fy AlbwmYchwanegu hwn
at Fy Albwm


Cliciwch i weld map mwy

Cafwyd hyd i'r rhain wrth chwilio'n ddiweddar:

Welsh Hills
Oak Hill
Tyn Rhos
mordaith
Llanbryn-mair

Hafan > Themâu > Amaethyddiaeth

Amaethyddiaeth


Detholiad o ddeunyddiau o'r Llyfrgell Ddigidol sy'n ymwneud â phrofiadau'r Cymry yn clirio tir ac yn ffermio yn Ohio




Edward Jones, Y Teithiwr Americanaidd: Neu Gyfarwyddyd i Symudwyr o Gymru i America (Aberystwyth, 1837)


"Y mae yn y wlad hon dir da iawn am wenith fel gwenith Cymru, ŷd yr Indiaid, haidd, ceirch, clover, a chloron."
dogfen oY Teithiwr Americanaidd, t.18
Mae'n debyg bod y gyfrol fach hon wedi cael cryn ddylanwad ar ddarpar-ymfudwyr Sir Aberteifi. Roedd Edward Jones yn argymell Siroedd Jackson a Gallia fel un o ardaloedd mwyaf addawol Ohio ac i'r ardal honno yr heidiodd cannoedd ar gannoedd o Gardis. Tybed felly ai'r disgrifiad o'r tywydd ac ansawdd y tir yn Ohio ym dogfen oMhennod 4 a'u denodd i'r dalaith yn y lle cyntaf?


Cartrefi John Alban a Thomas J. Alban, Sir Jackson

Cartrefi John Alban a
Thomas J. Alban, Sir Jackson

Llythyr o Raccoon, Sir Gallia

(NLW 11614E)

Llythyr dyddiedig 20 Medi 1855 gan Marth[a] James at David Thomas, Felin Wern, Llanina (ger Llanarth), Sir Aberteifi.

Gwraig weddw a mam i 6 o blant oedd Martha. Yn y llythyr hwn, disgrifir y stoc sydd ganddynt a nodir y prisiau a gafwyd am yr anifeiliaid yn ddiweddar. Ceir sôn am brisiau tir, menyn, caws, cig a gwenith hefyd a chyfeirir at y ffwrneisi newydd sy'n cael eu hadeiladu, y rheilffordd a'r economi.


Ysgrifennwyd ail ran y llythyr gan Evan, Garnwenlli. Caiff Martha ei chanmol gan Evan a dywed eu bod nhw am symud yn nes ati yn yr hydref. Mae ganddynt dair fferm a nodir beth yw prisiau prynu a rhentu tir.

dogfen oLlythyr gwreiddiol (Cymraeg; cyfieithiad Saesneg) >>


Llythyrau o Delaware a Centerville (NLW 16704E)


Llythyr dyddiedig 17 Mehefin 1846 gan Gryffith Thomas, Delaware, at Thomas Evans, Llanfynydd.

"yr wif yn demeno arnynt yn rhieni a phlant i adel pen Mynydd Llanfynydd a dyfod yn greno drosodd yr America fowr bydd yn gan gwell iddynt oll nag aros yna." dogfen oLlythyr Gryffith Thomas
Yn y llythyr hwn, mae Gryffith yn annog ei ffrindiau yn ardal Llanfynydd i ymfudo i America ac er mwyn ceisio dwyn perswad arnynt, mae'n disgrifio'i amgylchiadau presennol. Prynodd 100 acer o dir am $300 yn ystod y flwyddyn gyntaf; adeiladodd dŷ arno a chliriodd bron ei hanner. Mae'r tir yn dda ac eleni llwyddodd i brynu 100 acer arall am yr un pris.

Ceir manylion am y stoc sydd ganddo a'r dreth a delir. Nodir prisiau anifeiliaid (defaid, gwartheg, moch, ceffylau), prisiau bwyd (peilliaid, blawd, cig eidion, cig moch, menyn, te, siwgr), gwlân a gwenith a dywed fod y gwenith wedi ei dorri'n barod, yng nghanol Mehefin. At hyn ceir manylion am gyflog dynion a merched.

"... i mai yma lawer o ddynion yn perchen meddianai helaith ag oedd yn llwid yr olwg arnint yna, ac fel y mai llawer yn cwrdd a chroes wintodd ar y mor wrth ddyfod yma, ac eraill yn cael gwint teg oi ti felli hefid ar y tir, yn llaw yr Arglwidd y mai y llwyddiant, ar aflwyddiant, yn mhethai y bid hwn..." dogfen oLlythyr Gryffith Thomas

Nid oedd gan bob Cymro stori lwyddiannus i'w hadrodd er hynny. Ewch i ddarllen y llythyr a anfonodd Jenkin T. Jenkins, Centervil[le], at Daniel Jenkins, Gwaryfelin, Llangwyryfon ym 1851.

dogfen oLlythyr gwreiddiol (Cymraeg; cyfieithiad Saesneg) >>





Llythyr William a Margaret Bebb (NLW 6174D)


Llythyr dyddiedig 10 Hydref 1850 gan William a Margaret Bebb, Sir Van Wert, yn disgrifio eu melin lifio, eu melin ŷd a'r prinder dŵr. Sonnir hefyd am hau gwenith a'r tir sydd ganddynt yn Ohio.

dogfen oLlythyr gwreiddiol (Cymraeg; cyfieithiad Saesneg) >>


Llythyrau Edward Peat (NLW 14111D)


Fferm James Nicholas, Gomer

Fferm James Nicholas, Gomer
Symudodd Edward Peat a'i deulu i ardal Gomer, Sir Allen, tua 1868. Prynodd ddeugain cyfer o dir da i'w ffermio.

Mae'r llythyrau a anfonodd Edward at ei frawd yn Llanbryn-mair yn llawn hanesion am y Cymry a oedd yn ffermio yn yr ardal ac yn eu plith, mae llythyr sy'n sôn am brisiau tir. Dywed fod y prisiau wedi codi'n aruthrol ers i'r Cymry cyntaf brynu tir yno ac erbyn hyn roedd rhai wedi gwneud eu ffortiwn. Yn yr un llythyr, mae Edward yn disgrifio'i ddyletswyddau ar y fferm a'r stoc sydd ganddynt.

dogfen oLlythyr (Cymraeg; cyfieithiad Saesneg) >>


Sylwadau Iorthryn Gwynedd

Rhwng mis Mai 1851 a Mai 1852, aeth R. D. Thomas (Iorthryn Gwynedd) ar daith trwy dalaith Efrog Newydd, Ohio a Pennsylvania. Cofnododd ei sylwadau am ddatblygiad y wlad a'r cymunedau Cymreig mewn llyfr nodiadau cynhwysfawr, sef: America: neu Amrywiaeth o Nodiadau am yr Unol Daleithiau; Buddiol i Ymfudwyr. Gan Iorthryn Gwynedd (NLW 9521A).

Ewch i weld:
dogfen oNodiadau ar amaethu yn ardal Newark, Sir Licking (Cymraeg) >>

dogfen oPrisiau'r farchnad yn Newark (Cymraeg) >>

dogfen oPrisiau'r farchnad yn Columbus (Saesneg) >>




Gweinyddu